Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Awst 2012

Cefnogi Paralympiaid Cymru

Wrth i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 gychwyn, mae’r Arglwydd Wigley wedi dymuno’n dda i’r Paralympiaid Cymreig wrth iddynt anelu am aur yn eu campau.

Roedd Arglwydd Wigley, fu’n ymgyrchu ers tro byd dros bobl anabl ac sy’n cydweithio’n agos gyda’r Farwnes Tanni Grey Thompson ar faterion anabledd yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn y gemau ddydd Iau i gymeradwyo’r cystadleuwyr Cymreig.

Mae gan yr Arglwydd Wigley record faith o ymgyrchu ar faterion anabledd, a bu’n is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Anabledd am ddeng mlynedd, a bu’n weithgar yn cyflwyno’r Mesur Pobl Anabl.

Wrth siarad cyn gwylio’r beiciwr o Benrhyn Gŵyr, Mark Colbourne yn cystadlu yn y Velodrome, meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley: “Mae tri deg wyth o baralympiaid Cymreig yn cymryd rhan yn y gemau hyn, ac yr wyf am ddymuno’r gorau iddynt oll. Mae pob un ohonynt wedi goresgyn anawsterau unigol i gyrraedd y gemau hyn, a gwn y bydd pawb yng Nghymru y tu ôl iddynt ac am iddynt wneud eu gorau.

“Tra’n bod ni yn parhau i ymladd ar y lefel wleidyddol i’r rhai ag anableddau gael y gefnogaeth y mae arnynt ei angen a’i haeddu, mae’r athletwyr hyn yn profi nad yw nam corfforol yn eu hatal rhag llwyddo. Rwy’n gobeithio y bydd ymroddiad ac uchelgais yr athletwyr hyn yn ysbrydoli pobl o bob gallu i gyrraedd y nod a gwthio’r ffiniau. Pob hwyl; iddynt un ag oll.”

Ychwanegodd Bethan Jenkins AC, llefarydd Plaid Cymru ar Chwaraeon:  “Gall Cymru ymfalchïo yn ei record Baralympaidd, yn enwedig yn Beijing bedair blynedd yn ôl, lle’r enillodd athletwyr Cymru 10 medal aur - gwell nac erioed o’r blaen. Gwn fod y tîm yn edrych ymlaen at wneud hyd yn oed yn well yn Llundain, ac o gofio cefnogaeth Cyngor Chwaraeon Cymru ac eraill, rwy’n cywir gredu y gallant wneud hynny.

“Dyma’r Gemau Paralympaidd mwyaf erioed, a dengys yr argoelion mai hwy fydd y gemau mwyaf cyffrous hefyd. Bydd athletwyr Cymreig yno yn chwarae eu rhan. Fy ngobaith yw, os llwyddant, y gallwn berswadio Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffordd i ganiatáu i’r cyhoedd yng Nghymru gydnabod eu llwyddiannau.”

 

Rhannu |