Mwy o Newyddion
Argos yn cyfrannu arian bagiau siopa i Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Argos, yr adwerthwyr, wedi cyfrannu mwy na £7,000 a gasglwyd ganddynt wrth werthu bagiau siopa untro tuag at yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae’r cyfraniad hwn yn un o’r cyfraniadau mwyaf a wnaed i Cadwch Gymru’n Daclus yn sgil codi tâl am fagiau siopa ers pan gychwynnwyd codi tâl ym mis Hydref y llynedd. Bydd yr incwm yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo gwaith CGD ledled Cymru.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus, trwy raglenni fel Trefi Taclus ac Eco-Sgolion, yn annog pobl i weithredu yn eu cymunedau lleol er mwyn gwarchod yr amgylchedd a’n helpu i wireddu ein huchelgais, sef sicrhau ‘Cymru hardd sydd yn cael ei gwarchod gan bawb fel y gall pawb ei mwynhau’. Mae’r rhaglenni hyn yn helpu pobl i ddeall mor bwysig yw gwarchod yr amgylchedd a bydd y cyfraniad hwn yn cynorthwyo cymunedau i gydweithio ar brosiectau ymarferol i wella ansawdd eu hardal leol.
Dyma’r hyn a ddywedodd Louise Tambini, Cyfarwyddydd Prosiectau Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn hynod falch bod Argos wedi penderfynu cefnogi ein gwaith drwy gyfrannu’r arian a godwyd ganddynt wrth werthu bagiau siopa untro. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau â’n gwaith gyda gwirfoddolwyr lleol i wneud gwelliannau amgylcheddol ledled Cymru.
“Mae’n mynd yn gynyddol anodd mewn cyfnod fel hwn, pan mae arian mor brin, i godi arian i dalu costau gwirfoddolwyr, megis yswiriant, offer a chyfarpar ac felly mae cyfraniadau fel hyn gan y sector preifat yn hanfodol i lenwi’r bylchau yn ein cyllid. Rwy’n falch dros ben bod Argos wedi penderfynu cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â hwy - gan obeithio y bydd adwerthwyr eraill yn dilyn eu hesiampl wych a chyfrannu’r arian at achosion amgylcheddol.”
Dywedodd Ceri Wootton, Rheolwr Cydweithwyr a Materion Cymunedol yr Home Retail Group: “Gwnaeth Argos a’r Home Retail Group benderfyniad corfforaethol i gyfrannu’r arian a gasglwyd ganddynt drwy werthu bagiau untro i elusen amgylcheddol oherwydd y perygl y gall bagiau ei achosi i fywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol. Yn sgil y berthynas agos sydd gennym â Cadwch Gymru’n Daclus roedd yn gwneud synnwyr llwyr i ni gyfrannu’r arian iddynt hwy er mwyn iddynt fedru parhau â’r gwaith amgylcheddol ardderchog y maent yn ei gyflawni drwy Gymru.”