Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Awst 2012

Croesawu prentisiaid newydd i’r Senedd

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn croesawu pedwar prentis newydd i’r Senedd ar 6 Medi.

Mae’r pedwar person ifanc yn elwa o gynllun peilot sydd wedi’i gyflwyno gan y Cynulliad i gydnabod potensial pobl ifanc yn y gweithle.

Maent i gyd wedi cael gwahoddiad, ynghyd â’u teuluoedd a chyfeillion, i ymuno â’r Llywydd yn y Senedd i’w croesawu’n swyddogol.

“Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc mor uchel yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dylem oll wneud popeth a allwn i geisio cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau drwy gyfleoedd gwaith," dywedodd Mrs Butler.

“Dyma’r cynllun prentisiaeth cyntaf i’r Cynulliad ei gynnal ac mae’n gydnabyddiaeth o botensial pobl ifanc tra’n rhoi profiad iddynt o fyd gwaith a rhoi cyfle iddynt ennill cymhwyster mewn rhaglen hyfforddiant strwythuredig.

“Rwy’n falch o groesawu ein recriwtiaid newydd, ynghyd â’u teuluoedd, i’r Senedd ar ddechrau’r hyn fydd gobeithio yn yrfa hir a llewyrchus i bob un ohonynt.”

Y pedwar prentis yw:

1)   Melissa Nichols – o Gyncoed, Caerdydd

Bydd yn gweithio i’r Comisiwn a’r Gwasanaeth Cymorth i Aelodau.

2)   Morgan Reeves –o Faesteg, ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yn gweithio i’r adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau.

3)   Emily Morgan – o’r Barri ym Mro Morgannwg.

Bydd yn gweithio i Grŵp Adnoddau’r Cynulliad.

4)   Zoe Kelland – o’r Rhws ym Mro Morgannwg.

Bydd yn gweithio i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi a’r Gwasanaeth Cyswllt Cyntaf.

Llun: Rosemary Butler

 

Rhannu |