Mwy o Newyddion
23 Awst 2012
£1.7m ar gyfer safle newydd i deithwyr
Mae’r Gweinidog Cydraddoldebau, Jane Hutt, wedi cyhoeddi arian cyfalaf o £1.7m ar gyfer safle newydd i Sipsiwn a Theithwyr ym Mhowys.
Dyrannwyd £1m i Gyngor Powys ar gyfer 2012-13 gyda £750,000 yn cael ei ddyrannu o ran egwyddor ar gyfer 2013-14. Daw’r arian o gynllun grant cyfalaf Sipsiwn a Theithwyr.
A hithau’n cyhoeddi’r arian meddai Jane Hutt: "Yn ein strategaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr - ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’ - gwnaethom ymrwymiad i weithio gyda’r awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd newydd sy’n cyd-fynd â’r anghenion a nodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol.
"Bu angen ail safle ym Mhowys a hynny ers tro a bydd yr arian yr wyf yn ei gyhoeddi yn helpu i ddarparu’r safle hwnnw. Hwn fydd y safle newydd cyntaf yng Nghymru ers 1997 a bydd yn diwallu’r angen a nodwyd gan Gyngor Powys.
"Gall darparu cyfleusterau modern ac amodau byw teg i Sipsiwn a Theithwyr arwain yn y pen draw at well cyfleoedd o safbwynt cael mynediad i wasanaethau hanfodol eraill megis iechyd ac addysg.
"Mae’n bwysig i ni sicrhau cydraddoldeb a gwella ansawdd bywyd pawb sy’n byw yng Nghymru. Beth bynnag fo hil, ffydd, neu gefndir teuluol person, dylai fod ganddo’r un cyfleoedd â phawb arall."
Dywedodd y Cynghorydd Garry Banks, Aelod Cabinet ar gyfer Eiddo ac Asedau yng Nghyngor Powys: "Bydd y grant hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru bellach yn caniatáu i’r Cyngor ddatblygu safle parhaol i sipsiwn yn ardal Aberhonddu. Mae hwn yn nod y buom yn gweithio tuag ato ers tro.
"Oherwydd y grant hwn, bydd y cyngor bellach yn gallu darparu cyfleuster sy’n diwallu anghenion y teulu o dan sylw a bydd yn cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer arferion da."