Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Awst 2012

Llongyfarch myfyrwyr TGAU a myfyrwyr Bagloriaeth Cymru

Heddiw, gwnaeth Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ymuno â disgyblion Ysgol Gyfun Cynffig wrth iddynt ddathlu eu canlyniadau TGAU a chanlyniadau Bagloriaeth Cymru.
 
Dywedodd y Gweinidog: “Yn yr un modd â’r myfyrwyr dwi’n yn ymweld â nhw heddiw yng Nghynffig, mae myfyrwyr ledled Cymru yn haeddu ein canmoliaeth wrth iddyn nhw gymryd y cam arwyddocaol hwn ar eu siwrnai ddysgu.
 
“Mae perfformiad ein myfyrwyr yn yr arholiadau TGAU yn dangos bod y gyfradd pasio gyffredinol yn parhau i fod yn 98.7 y cant. Mae nifer y disgyblion sy’n ennill graddau A*-C yn 65.4 y cant. Mae hynny’n galonogol.”
 
Mae’r canlyniadau TGAU ar gyfer myfyrwyr Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod:
  • y gyfradd pasio gyffredinol yn parhau i fod yn 98.7 y cant;
  • y gyfran sy’n ennill graddau A* - C yn 65.4 y cant;
  • y gyfran sy’n ennill graddau A* ac A yn 19.2 y cant;
  • y gyfran sy’n ennill graddau A* yn 6.5 y cant.

Mae Bagloriaeth Cymru – y Diploma Canolradd a’r Diploma Sylfaen - wedi bod ar gael yn eang ers 2006 i ddisgyblion sy’n astudio ar draws y cyfnod 14-19. Bellach, mae’r Fagloriaeth ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4 ac i ddisgyblion sy’n derbyn addysg ôl -16. Mae canlyniadau heddiw yn dangos:

Ar y lefel Ganolradd;

  • gwnaeth bron i 10,000 (9,940) o ddysgwyr gwblhau rhaglen Bagloriaeth Cymru;
  • enillodd 8,119 y dystysgrif Graidd;
  • enillodd 7,210 y dystysgrif Graidd ynghyd â gofynion Opsiynau Bagloriaeth Cymru ac felly maent wedi ennill Diploma Ganolradd Bagloriaeth Cymru yn ei chyfanrwydd.

Ac ar y lefel Sylfaenol;

  • gwnaeth dros 3,500 (3,521) o ddysgwyr gwblhau rhaglen Bagloriaeth Cymru;
  • enillodd 2,515 y dystysgrif Graidd;
  • enillodd 2,236 y dystysgrif Graidd ynghyd â gofynion Opsiynau Bagloriaeth Cymru ac felly maent wedi ennill Diploma Sylfaenol Bagloriaeth Cymru yn ei chyfanrwydd.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed wedi ennill cymhwyster Bagloriaeth Cymru a hynny’n ychwanegol i’w llwyddiannau eraill. Mae’n parhau i sefydlu ei hun fel un o nodweddion allweddol dysgu 14 -19 oed yng Nghymru ac mae’n gymhwyster gwerthfawr.”

Llun: Leighton Andrews

 

Rhannu |