Mwy o Newyddion
Apêl cofeb Gwynfor Evans
CAFODD Gwynfor Evans, a fu farw saith mlynedd yn ôl, ei eni ar 1 Medi, 1912. Mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal eleni i ddathlu ei Ganmlwyddiant.
Bydd apêl genedlaethol yn cael ei lansio ar ddydd ei ben-blwydd i sicrhau cofeb barhaol iddo yng Nghaerfyrddin – lleoliad ei fuddugoliaeth fawr ym 1966.
Bydd yr apêl yn cael ei chyhoeddi mewn cyfarfod sydd i’w gynnal am 6 o’r gloch ger carreg goffa bresennol Gwynfor ar fryngaer y Garn Goch, ger Llandeilo, lle taenwyd ei lwch yn dilyn ei angladd yn 2005.
Y bwriad yw codi cofeb yng Nghaerfyrddin erbyn 2016 – sef 50 mlynedd ers iddo ennill yr is-etholiad.
Ystyrir is-etholiad Caerfyrddin ym 1966 ymhlith y pwysicaf yn hanes Prydain. Mae’n bosib y caiff ei gofio yn y dyfodol fel y cam cyntaf tuag at chwalu’r Deyrnas Unedig.
Roedd ethol Gwynfor Evans fel aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru yn garreg filltir nodedig yn hanes cenedl y Cymry, ac fe gafodd effaith sylweddol ar y broses ddatganoli a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cymru.
Cydnabyddir, hefyd, mai canlyniad Caerfyrddin osododd sylfaen buddugoliaeth Winnie Ewing i’r SNP ym 1967 – digwyddiad yr un mor bwysig i genedlaetholdeb yr Alban.
Ym 1980 bwriad Gwynfor i fynd ar streic newyn, hyd at angau petai angen, oedd y ffactor allweddol a berswadiodd llywodraeth Margaret Thatcher i wneud tro bedol a chytuno i sefydlu sianel deledu Gymraeg – sef S4C.
Llun: Gwynfor Evans