Mwy o Newyddion
AC yn llongyfarch myfyrwyr Cymru ar galyniadau TGAU
Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC, wedi llongyfarch myfyrwyr Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Gymreig.
Dywedodd AC Gorllewin a Chanolbarth Cymru, Simon Thomas : “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu harholiadau TGAU ac wedi cwblhau diplomâu Bagloriaeth Cymru. Dylai’r myfyrwyr, eu hathrawon a’u rhieni deimlo’n falch dros ben fod llai o fwlch rhwng canlyniadau TGAU Cymru a Lloegr ar y graddau uchaf a pherfformiad calonogol ar lefel Ganolradd Bagloriaeth Cymru.”
Ychwanegodd Mr Thomas fod e’n falch iawn i weld y Fagloriaeth Cymru yn parhau i dyfu yn y byd addysg yng Nghymru. Eleni cynyddodd nifer yr ymgeiswyr wnaeth gwblhau’r rhaglen i 9,940, cynnydd o 3,937 neu 66% ar 2011.
“Rydyn ni’n gwybod beth yw gweledigaeth Michael Gove yn Lloegr ynglŷn â dyfodol TGAU , hyd yn oed os nad ydyn ni’n cytuno ag e.” meddai’r AC Plaid Cymru.
“Beth yw gweledigaeth Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews a Llywodraeth Cymru? Bydd y brand TGAU yn mynd yn fwyfwy amherthnasol wrth i Loger datblygu ei system addysg hi.
“Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau er mwyn gwneud ein system addysg ni yn fwy perthnasol a gwerthfawr i bobl ifanc Cymru, yn hytrach nag aros i ddatblygiadau ddigwydd yn Lloegr. Mae pobl ifanc angen cymwysterau sy’n berthnasol a gwerthfawr lle bynnag yn y byd byddan nhw’n dewis gweithio neu astudio.
“Mae cwymp eto eleni yn nifer y rhai sy’n astudio ieithoedd megis Sbaeneg, Cymraeg Ail Iaith, a Ffrangeg. I wrthweithio hyn, cred y Blaid y dylem, erbyn 2025, weld treian o ysgolion uwchradd Cymru yn dysgu pynciau craidd mewn iaith dramor, gan ddefnyddio’r un dulliau trochi a fydd yn cael eu defnyddio i gyflwyno’r Gymraeg. Mae angen y sgiliau yma mewn economi fyd eang.
“Rhaid i lywodraeth Cymru weithredu i wella safonau yn ein hysgolion a thorri’r cydberthynas rhwng amddifadedd economaidd a chyrhaeddiad addysgiadol.”
Llun: Simon Thomas