Mwy o Newyddion
Encil Cymreig â blas Eidalaidd
Fydd encil cyntaf Canwyr Live Music Now (LMN), yn digwydd yn Rhosygilwen ger Ceredigion, ac yn cloi â noson hynod – Arias To Die For – o’r Arias Eidalaidd mwyaf dwys a dorcalonnus ar Ddydd Iau 30 Awst (7.30pm).
Fydd y noson yn cael ei gyflwyno gan un o alumni anrhydeddus LMN, Sally Burgess, y fezzo-soprano ryngwladol, a’i pherfformio gan yr artistiaid ifanc sydd yn mynychu’r gweithdai 3-diwrnod Sally fel rhan o’r enciliad.
Rhosygilwen, yn Nyffryn Teifi, yw un o leoliadau artistig a cherddorol mwyaf cyffrous yn Sir Benfro. Fydd Arias To Die For yn cymryd lle yn Neuadd y Dderwen, sydd wedi’i grofftio o dderw gwyrdd. Ynddo hefyd mae piano Steinway Grand Cyngerddol. Mae Catrin Finch, Shan Cothi, Maddy Prior a’r Academi o Sant Martin ymhlith ond rhai o’r perfformwyr enwog sydd wedi perfformio ynddo.
Mae Sally Burgess FRCM, Prydeiniwr a aned yn Ne-Affrig, yn mezzo-soprano delynegol operatig, cyfarwyddwr opera ac addysg wraig. Y mae wedi bod yn Gymrawd ag Athro Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd ers 2004, ynghyd âdysgu crefft llwyfan. Y mae hefyd wedi dysgu yn ysgol Cerdd a Drama Guildhall yn Llundain.
Cyfarwyddodd Sally ei hopera gyntaf yn 2009 gyda’r perfformiad Cosi fan tutte gan Mozart, i’r Opera Siambr Lloegr yn Buxton ac yn Llundain, a hefyd yn gweithio gyda chanwyr ar Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker Yn Nhŷ’r Opera Brenhinol, Rhaglen Artistiaid Ifanc yng Ngŵyl Opera Les Azuriales, Rhaglenni Artistiaid Ifanc ym Moscow ac Opera Ieuenctid Prydain.
Dywedodd Gillian Green, Cyfarwyddwr Live Music Now Cymru, “Dyma’r tro gyntaf i ni drefnu Enciliad Canwyr Live Music Now ac mae’n gyfle unigryw I nifer o artistiaid sy’n edrych i fireinio’i chrefft yn y lleoliad arbennig hwn.
“Mae cael mentor mor brofiadol a Sally Burgess yn gamp fawr a fydd cyngerdd Arias To die For yn noson fythgofiadwy, nid yn unig i’r gynulleidfa, ond i’r perfformwyr hefyd.”
Tocynnau ar gael gan Rhosygilwen ar 01239 841387 (www.rhosygilwen.co.uk ) pris £8.00
Llun: Sally Burgess