Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Awst 2012

Abertawe i ddangos y cerdyn coch i hiliaeth

Mae Abertawe'n ymrwymo i ymgyrch genedlaethol i gael gwared ar hiliaeth.

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn elusen genedlaethol sy'n defnyddio chwaraewyr pêl-droed proffesiynol i addysgu ac ysbrydoli plant.

Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymo i'r ymgyrch genedlaethol sy'n golygu y bydd chwaraewyr pêl-droed adnabyddus yn ymweld ag ysgolion i addysgu pobl ifanc, o Flwyddyn Pedwar hyd at Flwyddyn 13, yn erbyn hiliaeth.

Cefnogir yr ymgyrch gan yr amddiffynnwr Neil Taylor, sy'n chwarae i'r Elyrch a Chymru a sêr Manchester United megis Ryan Giggs a Rio Ferdinand.

Bydd yr ymgyrch yn gweithio'n agos gyda'r tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig i fynd i'r afael ag Islamoffobia ac iaith sy'n ennyn casineb.

Meddai Mitch Theaker, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc, ""Mae gan Abertawe draddodiad balch o fod yn ddinas groesawgar a goddefgar.

"Rydym am adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a rhoi i'n pobl ifanc yr ymwybyddiaeth a'r sgiliau i frwydro yn erbyn hiliaeth a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.

"Mae pobl ifanc yn edmygu chwaraewyr pêl-droed proffesiynol fel modelau rôl, felly mae ymrwymo i ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn ffordd wych o gynnwys pobl ifanc."

Mae'r cyngor hefyd yn darparu cyllid brys i Ganolfan Menywod Abertawe.

Meddai Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les, "Mae Canolfan Menywod Abertawe yn cynnig lle diogel i fenywod gwrdd a rhannu sgiliau a phrofiadau.

"Rydym yn darparu arian i helpu i gadw'r Ganolfan ar agor eleni ac i sicrhau bod menywod yn parhau i dderbyn cefnogaeth.

"Byddwn yn gweithio gyda'r Ganolfan a sefydliadau gwirfoddol eraill yn Abertawe i ystyried sut gallwn eu cefnogi mewn modd mwy cynaliadwy yn y dyfodol."

 

Rhannu |