Mwy o Newyddion
Pensiynwyr a gweithwyr tâl isel ar eu hennill yn y cynllun gwrthdlodi
Mae cynlluniau uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi a chreu dinas decach wedi'u datgelu gan Gabinet Cyngor Abertawe.
Mae'r cyngor yn bwriadu cyflwyno cyflog byw i roi cynnydd cyflog i hyd at 3,000 o'i swyddi â'r tâl isaf o fis Ebrill 2013 ymlaen.
Ar ben hynny, bydd miloedd o bensiynwyr yn cael gostyngiad gwerth £124 ar fil treth y cyngor eleni a bydd mwy o gefnogaeth ar gael i helpu pobl i hawlio'r budd-daliadau priodol yng ngoleuni newidiadau arfaethedig y llywodraeth i les.
Bydd y cyngor hefyd yn hyrwyddo undebau credyd fel ffordd fforddiadwy o fenthyg ac arbed arian.
Dywedodd David Phillips, Arweinydd y Cyngor, fod hawl gan weithwyr yr awdurdod â'r tâl isaf gael "cyflog byw" a gobeithiodd y byddai'r mentrau newydd hefyd yn rhoi hwb i'r economi leol.
Meddai, "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw mynd i'r afael â thlodi'n a, thrwy gynyddu incwm ein staff â'r tâl isaf, gallwn helpu i wella'u safonau byw.
"Mae ein staff â'r tâl isaf yn gwneud rhai o'r swyddi pwysicaf a mwyaf heriol yn y cyngor ac rydym yn credu y dylent gael cyflog teg am eu gwaith.
"Mae hyn ynghylch cyfiawnder cymdeithasol a sicrhau bod gan bobl gyflog teg, ond gobeithio y bydd hefyd yn rhoi hwb i'r economi leol am y bydd ychydig o arian ychwanegol gan bobl i'w wario mewn siopau a busnesau lleol."
Gan amlinellu'r hwb i bensiynwyr, dywedodd y Cyng. Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid, y bydd gostyngiad o £124 oddi ar fil bron i 3,000 o bensiynwyr eleni oherwydd grant gan Lywodraeth Cymru.
Meddai, "Dyma newyddion da i filoedd o bensiynwyr yn Abertawe. Rydym am ddefnyddio'r grant hwn i helpu pensiynwyr ar adeg pan fo costau byw'n uchel ac mae biliau bwyd a thanwydd yn bwrw pobl yn galed.
"Bydd yr ad-daliad hwn yn gwneud gwahaniaeth i lawer o bensiynwyr a fyddai efallai fel arall wedi cael trafferth talu eu bil."
Ac mewn symudiad arall, mae pob un o 10 aelod y Cabinet yn ymuno â Benthyciadau a Chynilion Abertawe (LASA), undeb credyd lleol Abertawe.
Meddai Ryland Doyle, Aelod y Cabinet dros Ardaloedd Targed, "Mae LASA'n gwneud gwaith gwych wrth helpu pobl leol i gael benthyciadau, nwyddau a gwasanaethau na fyddent efallai'n gallu eu fforddio fel arall.
"Rydyn ni i gyd wedi gweld hysbysebion y benthyciadau diwrnod talu hynod ddrud ar y teledu. Mae undebau credyd fel LASA'n ddewis arall effeithiol iddyn nhw ac mae'r Cabinet am ddangos ei gefnogaeth trwy ymuno."