Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Awst 2012

Y pedair prif blaid wleidyddol i orymdeithio gyda balchder

Bydd cynrychiolwyr o bedair prif blaid wleidyddol Cymru yn ymuno yn ng Ngorymdaith gyntaf Mardi Gras Cymru Caerdydd ar Fedi’r 1af. Bydd yr achlysur lliwgar ac ysbrydoledig yn tynnu sylw at hawliau Lesbiaid, Hoywon, Deurywiaid a Thraws-rywiaid yng Nghymru wrth i’r orymdaith ddechrau o’r pwynt ymgynnull ar Ffordd Dumballs am 11.30am ar fedi 1af lawr Heol y Santes Fair a’r Stryd Fawr i Gaeau Cooper erbyn dechrau’r Mardi Gras.

Dywedodd Jane Hutt AC Gweinidog dros Gydraddoldeb: “Rydw i’n falch iawn i weld y Mardi Gras yn dod yn ôl i Gaerdydd eto’r flwyddyn hon. Mae Mardi Gras Caerdydd yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddod a phobl at eu gilydd i ddileu anffafriaeth, rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn falch i gefnogi bob amser. Un o uchafbwyntiau’r penwythnos y flwyddyn hon fydd yr Orymdaith Mardi Gras gyntaf drwy ganol y ddinas. Dw i’n siwr y bydd Mardi Gras 2012 yn llwyddiant ysgubol arall i Gaerdydd.”

Bydd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Nick Ramsey yn un o’r gwleidyddion fydd gorymdeithio trwy ganol Caerdydd, dywedodd, “Rwyf yn edrych ymlaen at ymuno gyda miloedd o bobl i ddathlu'r arddangosfa fawr hon o amrywiaeth ac undod fydd yn ein prif ddinas.

"Dros y blynyddoedd mae Mardi Gras Cymru Caerdydd wedi codi mewn statws, nid yn unig oherwydd bod yr Ŵyl yn gyfle gwerthfawr i ddathlu’r cymdeithasau amrywiol sydd ganddo yng Nghymru ond hefyd am ei bod yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yn ymwneud a chydraddoldeb.

"Mae’r Mardi Gras wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rwy’n sicr y bydd ychwanegu’r orymdaith at ddigwyddiadau’r dydd ar Gaeau Cooper yn denu mwy o bobl i’r achlysur lliwgar a thrawiadol.

"Fel Ceidwadwr Cymreig byddaf yn parhau i sefyll dros hawliau a rhyddid yr unigolyn. Mae’r ceidwadwyr yng Nghymru a San Steffan yn gweithio’n galed i atgyfnerthu’r neges nad yw ein cymdeithas yn yr unfed ganrif ar hugain yn derbyn unrhyw fwlian a gwahaniaethu ar sail rhyw.”

Unwaith eto eleni, mae Plaid Cymru yn cefnogi Mardi Gras Caerdydd Cymru. Bydd Plaid Pride – grŵp LHDTh y blaid – yn cymryd rhan yng ngorymdaith balchder LHDTh gyntaf Cymru.

Meddai Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru: ‘Ers fy ethol yn arweinydd, rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i ymgyrchu yn weladwy ac yn glir ar faterion sydd o bwys i holl gymunedau Cymru.

"Gyda’r ormes bresennol ar orymdeithiau balchder LHDTh dramor, gwyddom fod gorymdeithio yn enw hawliau cyfartal i bobl LHDTh ledled y byd yn ofnadwy o bwysig. Yng Nghymru, oherwydd gweithredoedd cenedlaethau blaenorol o ymgyrchwyr hoyw a wrthododd guddio eu hunaniaeth, gallwn ddathlu'r holl hawliau hynny a enillwyd mewn cyfnod go fyr o amser.

"Ond er bod cytundeb yn y farn wleidyddol ym Mae Caerdydd o blaid cydraddoldeb LHDTh, mae cam-drin homoffobig a thrawsffobig yn parhau yng Nghymru. Yn rhanbarth heddlu De Cymru, gwelwyd cynnydd o 62% yn y nifer o droseddau casineb yn erbyn pobl LHDTh y llynedd. Gwelwn hefyd bod homoffobia dan yr wyneb a gwahaniaethu oherwydd rhywedd, yn enwedig ar ffurf bwlio yn ein hysgolion. 

"Diwrnod i ddathlu ac i gael hwyl yw’r Mardi Gras. Ond y mae hefyd yn bwysig o ran codi llais a herio casineb beth bynnag ei darddiad, a mynnu peidio derbyn anoddefiad o fewn bywyd gwleidyddol a dinesig yng Nghymru. ’Rwyf yn falch o roi cefnogaeth lawn fy mhlaid i’r ŵyl eleni, a dymunaf yn dda i’n gorymdeithwyr.’

Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ei bod hi’n arwyddocaol iawn bod y blaid yn cefnogi'r Orymdaith Mardi Gras: “Mae’r Mardi Gras yn achlysur gwych, ond wrth gwrs mae yna neges i’w throsglwyddo hefyd.

"Mae’n ffaith ddigalon iawn, yn y dyddiau sydd ohoni, bod aelodau o’r gymuned LHDTh yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu. Ni ellir caniatáu'r sefyllfa hon i barhau. Mae’r Mardi Gras yn gwneud gwaith pwysig iawn yn creu cydraddoldeb trwy hyrwyddo amlygrwydd o fewn y gymuned amrywiol yr ydym yn byw.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi brwydro ers blynyddoedd am hawliau mwy cyfartal i’r gymuned LHDTh, a dyna pam ein bod yn cefnogi cynlluniau’r Llywodraeth Glymblaid i gyflwyno priodasau bobl o’r un rhyw. Rydym yn credu bod amddifadu grŵp o bobl o’r un cyfleoedd sydd gan eraill nid yn unig yn gwahaniaethu ond hefyd yn annheg. Mae cariad yr un peth i gyplau o ryw gwahanol a phobl hoyw, dylai’r sefydliad sifil hefyd felly fod yn gyfartal.”

Mae’r her i fusnesau a sefydliadau i ymuno a’r orymdaith LHDTh Gyntaf yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant i’r trefnwyr. Mae’r ymateb wedi dod o bob cornel, sefydliadau, grwpiau dawns a chwaraeon a Chorau. Mae cyfranogwyr eraill sydd wedi rhoi eu hymrwymiad i orymdeithio yn cynnwys:

Cymdeithas LHDTh+ Prifysgol Caerdydd – yn cynhyrchiol Lesbiaid, Hoywon, Deurywiaid a Thraws-rywiaid. Yn gyffredinol, maent yn cynhyrchiol unrhyw un sydd yn teimlo eu bod yn lleiafrif o ran hunaniaeth a thueddiadau rhywiol. www.cardifflgbtplus.co.uk/

Stonewall Cymru yw’r Elusen Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol ar gyfer Cymru gyfan.  Y nod yw sicrhau cydraddoldeb ar gyfer pobl LHD gartref, yn yr ysgol, ac yn y gwaith. Sefydlwyd yr elusen yn 2003 gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Stonewall y DU. Mae ein gwaith wedi’i deilwra ar gyfer anghenion pobl LHD ledled Cymru, gan ddefnyddio cyfoeth o ymchwil gan Stonewall ledled Prydain. www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/

TUC Cymru – yn cynhyrchiol materion ar bob lefel sy’n ymwneud a aelodau LHDTh Undebau Llafur Cymru. www.tuc.org.uk/tuc/regions_info_wales-cy.cfm?regional=2

Côr Meibion Hoyw De Cymru – grŵp sydd wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd ac yn perfformio ar draws De Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae gan y côr dros 30 o aelodau ac wedi perfformio droeon yn y gorffennol yn y Mardi Gras. www.swgmc.com/

Trawsrywedd yng Nghymru – Mae Canolfan ragoriaeth LHSTh yn fenter gymunedol ac elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaeth cefnogi, prosiectau, cynlluniau a digwyddiadau sy’n ymwneud a chyfeiriadedd ac adnabyddiaeth rywiol i unigolion a sefydliadau er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. www.tginwales.org.uk/content.php

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins – yw’r brif elusen HIV ar fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Ymddiriedolaeth Terrance Higgins yn flaengar yn y frwydr yn erbyn HIV a gwella iechyd rhyw'r wlad. www.tht.org.uk/

Sglefrwyr ‘Roller’ Caerdydd – Sefydlwyd y grŵp marched yn wreiddiol yn Hydref 2010 ar gyfer rasio yn y Gynghrair Sglefrio yng Nghaerdydd a’r De. Maent bellach yn cystadlu mewn chwaraeon sglefrio hoci, Derby’r Dynion a sglefrio hamdden.

Dywedodd Richard Newton wrth annog y gymuned leol a thu hwnt i ymuno ar orymdaith, “Mae gorymdeithiau mewn rhannau eraill o Brydain wedi denu cynrychiolwyr amrywiol iawn, o Brifysgolion, Byrddau Iechyd, Busnesau, Swyddfeydd Llywodraeth Leol, y cyhoedd ac amryw o Sefydliadau.

"Ein bwriad yw denu cymaint o bobl a phosib i ddod a lliw i strydoedd Caerdydd ac i wrthwynebu unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw, bydd hyn yn taro tant gyda nifer felly dewch i ymuno a ni.”

Fydd yna ddim tal yn cael ei godi ar unigolion a sefydliadau anfasnachol sy’n dymuno ymuno a’r orymdaith ar droed ond bydd pris yn cael ei godi ar fusnesau masnachol.

Bydd gwobrau yn cael eu cynnig i’r gwisgoedd a’r arddangosfeydd gorau. Mae ffurflenni cais ar gael ar wefan Mardi Gras Cymru Caerdydd www.cardiffmardigras.co.uk.

Bydd yr orymdaith yn teithio trwy ganol Caerdydd ac yn cyrraedd Caeau Cooper mewn da bryd cyn i’r perfformiadau ddechrau ar y prif lwyfan sy’n cynnwys Marcus Collins a Ruth Lorenzo oedd yn ffeinal yr Xfactor, y gantores Heather Small a’r band byd enwog The Freemasons.

Llun: Jane Hutt AC Gweinidog dros Gydraddoldeb

Rhannu |