Mwy o Newyddion
Cloc yn ticio ar gynllun ariannu gwledig
Mae tair wythnos ar ôl i gymunedau yng Nghymru wneud cais i gynllun ariannu’r Loteri Pentref SOS am brosiectau i wyrdroi dirywiad gwledig
Heddiw cynigiwyd grant Loteri o £48,179 i gymuned bentref yng Nghymru i helpu i roi bywyd newydd i’w hardal.
Bydd yr arian ar gyfer Tyn y Capel yn Y Mwynglawdd, Clwyd, yn cefnogi rhedeg bwyty newydd yn eu tafarn bentref a brynwyd yn ddiweddar. Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl leol a defnyddir yr elw er budd grwpiau eraill yn yr ardal.
Daw’r arian o gynllun Pentref SOS y Gronfa Loteri Fawr, sy’n cefnogi cymunedau gwledig ar draws y DU i ddod ynghyd i wella cyfleusterau, gwasanaethau a chyfleoedd i bobl leol.
Dywedodd Gale Taylor, cadeirydd Tyn y Capel: “Mae Ffrindiau Tyn Y Capel yn dymuno ailagor y dafarn a’r bwyty y gwelwyd eu colli gan y gymuned leol ers dros flwyddyn. Bydd y dyfarniad grant hwn yn mynd tuag at gostau rhedeg y busnes ac yn mynd â ni gam yn agosach at gyflawni ein nod er budd y gymuned leol.”
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn annog cymunedau gwledig eraill gyda phoblogaethau o lai na 3,000 ar draws Cymru i fanteisio ar y cynllun ariannu cyn iddo gau ar 12 Medi. Mae grantiau o rwng £10,000 a £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau mentrus o siopau a thafarndai a redir gan y gymuned i gynlluniau ynni neu gludiant, a phrosiectau crefft neu fwyd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.villagesos.org.uk
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru y Gronfa Loteri Fawr: “Mae hwn yn gyfle unigryw i gael arian i fentrau cymdeithasol felly byddwn yn annog mwy o gymunedau gwledig yng Nghymru i wneud cais.”
Mae manylion llawn rhaglenni dyfarniadau grantiau’r Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.biglotteryfund.org.uk
Gofynnwch gwestiwn i BIG yma: https://ask.biglotteryfund.org.uk
Dilynwch BIG ar Twitter: www.twitter.com/BigLotteryFund #BIGlf
Ewch i BIG ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFund