Mwy o Newyddion
Yr Heddlu nôl yn y dref
Bydd Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd yn parhau yn ardal droseddol isel, diolch i bresenoldeb heddlu yng nghanol cymuned y dref. Mae lleoliad newydd gan yr heddlu yn Hen Neuadd y Dref, gan sicrhau presenoldeb amlwg yr heddlu yn yr ardal. Mae hefyd yn tawelu meddwl trigolion yr ardal bod swyddogion yr heddlu yn gweithio’n ddiwyd o fewn eu cymuned.
“Mae meddwl yn arloesol a chreadigol yn allweddol ar gyfer sicrhau presenoldeb yr heddlu ym Mhenrhyndeudraeth,” meddai Cynghorydd Plaid, Gareth Thomas sy’n cynrychioli trigolion lleol ar Gyngor Gwynedd. Mae’r Cyng. Thomas wrth ei fodd bod ei ymchwiliadau wedi arwain at leoli swydd gan yr Heddlu yn Hen Neuadd y Dref, yn dilyn cau'r orsaf heddlu lleol yn ddiweddar.
Mae’r Neuadd bellach yn cael ei rhedeg fel canolfan alw gan Traveline Cymru. Yr oriau agor yw 7:00yb hyd 11:00yh saith diwrnod yr wythnos a bydd yr heddlu yn defnyddio rhan o’r adeilad fel eu swyddfa heddlu ym Mhenrhyn.
“Roedd llawer o’r trigolion yn credu bod hen orsaf yr heddlu yn rhy bell o ganol y dref,” eglurodd Y Cynghorydd Thomas. “Nawr mae’r heddlu yn gweithio o Hen Neuadd y Dref, sydd wedi ei leoli ar sgwâr y dref mewn lle mwy canolog - dros y ffordd i’r hen lys a gorsaf yr heddlu.
“Hoffwn ddiolch i Traveline Cymru a Chyngor Tref Penrhyndeudraeth, perchnogion yr adeilad, am eu cefnogaeth. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru, o dan arweiniad eu Prif Gwnstabl a Chadeirydd Awdurdod yr Heddlu, am eu parodrwydd i ystyried agwedd wahanol tuag at blismona yn yr ardal wledig hon, un sy'n dod â budd i bobl Penrhyndeudraeth. Mae'n sicrhau bod yr ardal hon yn parhau i fod yn amgylchedd diogel i bobl fyw a gweithio ynddi,” ychwanegodd Cynghorydd Thomas.
Yn ôl ym mis Ionawr eleni, y gwnaeth y Cynghorydd Thomas awgrymiadau ymarferol i Brif Gwnstabl Mark Polin, Heddlu Gogledd Cymru, ar sut y dylent sicrhau presenoldeb cymunedol ym Mhenrhyndeudraeth, ar ôl i’r orsaf bresennol a oedd wedi ei lleoli ar gyrion y dref gau.
Fel rhan o adolygiad ystadau Heddlu Gogledd Cymru, clustnodwyd Gorsaf Heddlu Penrhyndeudraeth fel un i’w chau. Roedd pryderon lleol y byddai symud y ganolfan i Borthmadog yn cychwyn ar y broses o weld lleihad mewn presenoldeb yr heddlu ar y strydoedd ac effeithio’r berthynas cydweithio agos sydd gan y gymuned gyda’r heddlu.
Llun: Paula Stewart; Swyddog Cefnogol Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru, Emma Lockett, Rheolwr Canolfan Alw Traveline Cymru a Chynghorydd Plaid Gareth Thomas