Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Awst 2012

Ysbyty Tywysog Philip i gadw gofal meddygol brys a mân anafiadau

Bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i fod yn ysbyty holl-bwysig ar gyfer pobl Llanelli a’r bwrdd iechyd ehangach. Bydd yn darparu gofal ac asesiadau ar gyfer argyfyngau meddygol, mân anafiadau a gwasanaethau cynlluniedig (dewisol) arbenigol iawn, fel sy’n wir ar hyn o bryd.

Hoff ddewis Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer yr ysbyty yw rhoi gofal o ansawdd uchel i’r holl gleifion hynny a ddylai ddefnyddio’r ysbyty yn Llanelli ar hyn o bryd, ond mewn ffordd well.

Mae am ddod â chleifion argyfwng meddygol (e.e. cleifion strôc, diabetes, heintiau a phyliau o asthma) i mewn i’r ysbyty drwy Uned Derbyniadau Meddygol Brys. Byddai’r uned hon wedi’i harwain gan ymgynghorwyr ac ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Byddai’r cynlluniau’n gwella’r gwaith o asesu a rheoli’r cleifion mwyaf meddygol sâl.

 

Dywedodd Dr Phil Kloer: “Mae hyn yn welliant ar gyfer cleifion meddygol sâl gan y byddant yn dod yn syth i mewn i’r ysbyty, gan osgoi’r uned cerdded-in-mewn a chan gael un asesiad yn unig, yn hytrach na dau. Felly byddant yn gweld ffisegydd lawer yn gyflymach er mwyn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.”

Mae mwyafrif y cleifion meddygol argyfwng yn dod i mewn i’r ysbyty gyda’r gwasanaeth ambiwlans neu ar ôl cael eu cyfeirio gan eu meddygon teulu, a bydd hyn yn parhau o dan y cynnig newydd.

Ochr yn ochr â hyn, byddai’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys bresennol yn cael enw mwy priodol, sef Canolfan Ddamweiniau Leol. Byddai ymarferwyr nyrsio argyfwng cymwys yn rhoi gofal i’r holl gleifion sy’n mynd i’r uned ar hyn o bryd gyda mân anafiadau a salwch (toriadau, sigiadau, llosgiadau mân iawn). Byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei roi 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a byddai nyrsys yn cael eu hyfforddi i wneud asesiadau a throsglwyddo cleifion yn ôl yr angen.

Dywedodd Dr Kloer: “Rydym am gydweithio’n agos â meddygon teulu lleol, pobl leol a grwpiau o gynrychiolwyr er mwyn egluro pryd mae’n briodol mynd i Ysbyty Tywysog Philip a phryd y gallai fod yn fwy priodol yn glinigol fynd i uned arall neu drosglwyddo i rywle arall.”

Mae’r bwrdd iechyd hefyd am roi gwasanaethau newydd yn yr ysbyty yn Llanelli, gan gynnwys uned gofal dementia ac uned arhosiad byr, a datblygu hyn fel canolfan ragoriaeth ar gyfer orthopaedeg a gofal canser y fron.

I ddarllen rhagor am gynigion y bwrdd iechyd ac i roi eich barn, ewch i’r anodd ar lein yn www.bihywelddahb.cymru.nhs.uk/Ymgynghori, neu ewch i ddigwyddiad yn eich ardal chi:

Cyfarfodydd cyhoeddus:

 

Sir

Amser a lleoliad

Sir Gaerfyrddin

7- 9pm 4 Medi 2012

Parc y Scarlets, Llanelli

Ceredigion

7 - 9pm 5 Medi 2012

Y Morlan Aberystwyth

Sir Benfro

7 - 9pm 20 Medi 2012

Ysgol Syr Thomas Picton, Hwlffordd

 

Dewch draw unrhyw bryd i gael gwybod rhagor yn ein sesiynau galw heibio:

 

Porth Tywyn

1–7.30pm 2 Hydref 2012

Y Neuadd Goffa, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin 

Aberteifi

1–7.30pm 4 Hydref 2012

Neuadd y Dref, Aberteifi, Ceredigion

Pontyberem

1 -7.30pm 9 Hydref 2012

Neuadd Goffa Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Caerfyrddin

1–7.30pm 16 Hydref 2012

Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin

Abergwaun

1–7.30pm 17 Hydref 2012

Neuadd y Dref, Abergwaun, Sir Benfro

Aberaeron

1–7.30pm 22 Hydref 2012

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron, Ceredigion

Cilgeti

1–7.30pm 24 Hydref 2012

Canolfan Gymunedol Cilgeti, Sir Benfro

 

Rhannu |