Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Awst 2012

Gweinidog Iechyd yn esbonio manylion y system optio allan

Rhoddwyd esboniad am y newidiadau a gynigir i’r system rhoi organau yng Nghymru mewn sesiwn Holi ac Ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths.

Mae’r fideo’n cynnwys yr holl gwestiynau cyffredinol am y ddeddfwriaeth arfaethedig, fel “Beth yn union a olygir gan y system ‘feddal’ o optio allan”, a “Pryd fydd cydsyniad a ystyrir ddim yn berthnasol”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: “Mae hwn yn bwnc sensitif iawn a gobeithio y bydd y fideo’n helpu i roi gwybodaeth i bobl am sut y bydd y system newydd yn gweithio ac yn rhoi hyder iddynt ynddi.

“Rwyf o’r farn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn arbed bywydau, ac er bod Cymru wedi gwneud camau breision yn cynyddu nifer y bobl ar y Gofrestr Rhoi Organau, rwy’n meddwl bod y wlad hon yn barod i gymryd y cam nesaf.”

Mae digon o amser o hyd i gael dweud eich dweud am fanylion y ddeddfwriaeth. Bydd yr ymgynghoriad yn dal ar agor i dderbyn ymatebion tan ddydd Llun 10 Medi.

Ewch i http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/organbill/?skip=1&lang=cy i gael dweud eich dweud.

I weld y sesiwn Holi ac Ateb, ewch i: http://wales.gov.uk/topics/health/nhswales/majorhealth/organ/video/?skip=1&lang=cy

Llun: Lesley Griffiths

Rhannu |