Mwy o Newyddion
Penblwydd hapus i Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn nodi ei phen-blwydd yn 40 mlwydd oed eleni a dathlwyd gyda digwyddiad gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf. Yn ystod y digwyddiad gwelwyd dangosiad cyntaf ffilm fer yn cynnwys gwirfoddolwyr, ysgolion a gwynebau enwog, gan gynnwys Ruth Jones a llysgennad Cadwch Gymru’n Daclus Michael Sheen, sydd wedi dymuno penblwydd hapus i’r sefydliad.
Torrodd y Prif Weinidog cacen penblwydd Cadwch Gymru’n Daclus ac fe ddathlodd staff a gwirfoddolwyr yn eu hardaloedd lleol.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Yn ôl pan oeddwn yn gweithio fel Gweinidog yr Amgylchedd roedd gwaith ymchwil ar ba welliannau oedd eisiau ar bobl Cymru.
“Yn amlwg, roedd eisiau arnynt awyr lân a thraethau glân ond roeddent hefyd am weld eu cartrefi a’u cymunedau yn lân ac yn daclus. Roedd pobl oedd yn gweld eu cymuned yn lân yn fwy hapus. Roedd hwn yn codi ysbryd yr holl gymuned oherwydd yr oedd yna deimlad o barch.”
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cael ei chydnabod yn un o’r prif elusennau amgylcheddol sydd yn gweithio’n gymunedol ac ers 1972 mae wedi bod yn gweithio gyda phobl i wella ansawdd yr amgylchedd lleol. Mae gwaith yr elusen yn cynnwys:
- Y fenter Trefi Taclus sydd, hyd yma, wedi recriwtio mwy na 33,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o Gymru. Maent wedi cymryd rhan mewn sesiynau clirio a chodi sbwriel ac wedi troi mannau gwyrdd a gafodd eu hanwybyddu’n rhandiroedd a mannau eraill gwerthfawr ar gyfer y cymunedau, yn ogystal â gwella cynefinoedd bywyd gwyllt.
- Eco-Sgolion, sef rhaglen ryngwladol sydd yn dysgu plant ifanc iawn i fod yn gyfrifol yn amgylcheddol. Mae hyn o fudd i’r ysgolion ac i’r gymuned ehangach. Erbyn hyn mae 94% o ysgolion Cymru wedi cofrestru.
- Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn monitro lefelau’r sbwriel a ganfyddir ar strydoedd Cymru ac yn cynghori awdurdodau lleol ynglŷn â pholisi amgylcheddol a gorfodaeth.
- Gwobrau Arfordir - Cadwch Gymru’n Daclus sydd yn cyflwyno’r Faner Las, y Wobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr. Dim ond y traethau a’r cyrchfannau gorau yng Nghymru sydd yn cael eu cydnabod oherwydd eu bod yn cael eu rheoli mewn modd sydd yn cynnal yr amgylchedd ac oherwydd eu glendid, eu cyfleusterau rhagorol ac oherwydd safon uchel ansawdd y dŵr.
- Mae Gohebwyr Ifanc ar yr Amgylchedd yn rhaglen ryngwladol sydd ei gweinyddu yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus. Ar gyfer y gystadleuaeth hon mae’r disgyblion yn archwilio problemau amgylcheddol lleol ac yn darparu adroddiad amdanynt mewn dull cadarnhaol gan gynnig atebion i’r problemau mewn erthyglau ysgrifenedig, ffotograffau neu fideo.