Mwy o Newyddion
Priodwch ym Mhrifysgol Bangor
Bydd un o adeiladau mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru’n agor ei ddrysau'r hydref hwn i groesawu parau sy’n ystyried priodi mewn lle arbennig ac unigryw.
Mae gan Brifysgol Bangor nawr drwydded lawn i gynnal priodasau, sy’n golygu y gellwch gael eich seremoni sifil a’ch neithior ar y safle. Gobaith y Brifysgol yw y bydd ei Ffair Briodasau gyntaf ar Dydd Sul, Medi 2il yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig.
Caiff parau eu croesawu gyda derbyniad diodydd pan fyddant yn cyrraedd cyn cael cyfle i gyfarfod â nifer helaeth o gyflenwyr lleol ar gyfer priodasau, a chael golwg ar adeiladau trawiadol y Brifysgol, sy’n cynnwys Neuadd Reichel, a adnewyddwyd yn ddiweddar, a’r Prif Adeilad eiconig sydd yn Rhestredig Graddfa 1.
Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymweld ag Ystafelloedd y Teras, lle cynhelir seremonïau priodas a phartneriaethau sifil, yn ogystal â chyfarfod â rhai o dîm digwyddiadau’r Brifysgol, a fydd wrth law i ateb cwestiynau.
Cynhelir Ffair Briodas Prifysgol Bangor ddydd Sul, 2 Medi, o 11am – 4pm yn Adeilad Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor ac ni chodir tâl mynediad.
Mwy o wybodaeth ar-lein yn www.funkysunflower.com neu drwy ffonio Rebecca o Funky Sunflower Events ar 07914 806410