Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Awst 2012

Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco yn mynd ar daith drwy Gymru

Mae'n bleser gan Ganolfan Mileniwm Cymru gyhoeddi ei thaith genedlaethol gyntaf gyda chynhyrchiad Cymraeg o'r enw Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco. Agorodd y sioe yng Nghaerdydd ddiwedd Gorffennaf ac yna'n teithio ledled Cymru drwy gydol mis Awst, gan ddod i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Dydd Sadwrn 25 Awst 6yh.

Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco yw cynhyrchiad Cymraeg Canolfan Mileniwm Cymru o ddrama eiconig Douglas Maxwell - Decky Does a Bronco. Perfformiwyd y cynhyrchiad safle-benodol hwn sy'n digwydd ar iard chwarae gyntaf gan gwmni Grid Iron yng Ngŵyl Caeredin yn 2000 ac yn 2010 cwblhaodd daith o dri mis o amgylch yr Alban a Lloegr.

I fachgen naw oed, bwrw'r bronco yw'r teimlad gorau erioed…Rydych yn sefyll ar siglen ac yn ei gwthio lan mor uchel â phosibl, cyn cicio'r sedd lan dros y bar wrth i chi neidio oddi arni.

Mae Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco yn adrodd hanes pwerus a bywiog am ddiniweidrwydd plentyn a'r cyfnod anodd wrth dyfu'n oedolyn. Mae'r ddrama wedi'i gosod ar ystâd dai yng Nghwm Tawe, lle mae pum bachgen yn treulio haf 1983 yn trafod eu breuddwydion a'u pryderon yn eu parc lleol. Mae'n haf o esgus ymladd, Star Wars a'u hobsesiwn newydd â bwrw'r bronco, ond pan ddaw eu cellwair a'u cecru chwareus i ben cyn pryd oherwydd digwyddiad hollol annisgwyl, mae eu bywydau yn newid am byth.

Dywed Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Y cam nesaf yn ein datblygiad fel canolfan wirioneddol genedlaethol ar gyfer y celfyddydau perfformio yw cynhyrchu ein gwaith ein hunain. Mewn saith mlynedd mae'r Ganolfan wedi llwyddo i sefydlu ei hun fel theatr sy'n llwyfannu cynyrchiadau o'r radd flaenaf, gan gynhyrchwyr sy'n adnabyddus ledled y byd, yn enwedig ym maes theatr gerddorol ac opera. Wrth i ni aeddfedu, ein huchelgais yw cynhyrchu a chyflwyno gwaith newydd, yn y ddwy iaith, i arddangos talentau Cymru, yn ogystal â pharhau i gyflwyno perfformiadau gorau'r byd i Gymru.

Y cynhyrchiad yma yw ein cam cyntaf tuag at wireddu'r uchelgais honno, ac felly mae'n gynhyrchiad pwysig iawn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno'r cynhyrchiad yma i gynulleidfaoedd ledled Cymru ac rwy'n ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am ein cefnogi i wneud hyn."

Cynhyrchir Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco ar y cyd â Theatr na n’Óg. Cyfarwyddir y perfformiad gan Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na n’Óg ac mae ei gwaith diweddar yn cynnwys Salsa, Aesop Fables a You Should Ask Wallace, a berfformir yn Singapore yn 2013.

"Mae bod yn rhan annatod o daith genedlaethol gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru yn gyffrous a dweud y lleiaf, yn enwedig o gofio natur bwerus ac emosiynol Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco. Mae'n fraint cael gweithio gyda chast a chriw Cymreig mor dalentog ar ddrama a fydd yn cyfareddu cynulleidfaoedd" medd Geinor.

Cafodd y sgript wreiddiol, Decky Does a Bronco, a ysgrifennwyd gan Douglas Maxwell, ei chreu a'i pherfformio gyntaf gan gwmni theatr o'r Alban, Grid Iron yn 2000. Bu'n llwyddiannus iawn yng Ngŵyl y Fringe yng Nghaeredin gan ennill Gwobr y Scotsman Fringe First. Aeth ar daith yn yr Alban a Lloegr a chafodd ei henwebu ar gyfer gwobr TMA/Barclays am y Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn 2001.

Mae Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco wedi'i haddasu gan Jeremi Cockram a'i chyfarwyddo gan Geinor Styles.

 

 

 

Bydd Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco yn dod i Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Dydd Sadwrn 25 Awst cyn parhau ar daith o amgylch Cymru. Mae pris tocynnau yn amrywio £12 (£10) I archebu tocynnau, ewch i www.aber.ac.uk/artscentre neu ffoniwch Swyddfa Tocynnau 01970 62 32 32.

Canllaw Oed: 11+

 

Rhannu |