Mwy o Newyddion
Annog pobl Canolbarth Cymru i ganolbwyntio ar faterion lleol
Mae pobl Canolbarth Cymru yn cael eu hannog i feddwl yn lleol wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth unigryw sy'n ceisio ennyn mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru.
Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth “Democratiaeth ar Waith” Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf, yn ceisio dangos nad rhywbeth sy'n digwydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn unig yw gwleidyddiaeth.
Mae'r gystadleuaeth yn gofyn am ddelwedd o rywbeth sy'n effeithio ar bobl a rhywbeth y maent am ei weld yn newid.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, "Dechreuais i fy ngyrfa gwleidyddol fel cynghorydd yng Nghasnewydd.
"Dechreuais i gymryd diddordeb oherwydd fy mod eisiau mynd i'r afael â phroblemau a materion penodol oedd yn effeithio ar y gymuned yr oeddwn i'n byw ynddi.
"Dyna sydd wrth galon yr hyn yw gwleidyddiaeth i mi, sef sefyll drosoch chi eich hun, eich teulu a'ch cymuned er mwyn creu rhagor o gyfleoedd i bawb drwy wella'r amgylchedd a'r gwasanaethau sydd ar gael.
"Mae llawer o faterion yn wynebu Canolbarth Cymru ac rydym yn gwahodd pawb i'w cynyrchioli mewn ffotograff.
"Nid oes rhaid bod yn ffotograffydd neu hyd yn oed fod yn berchen ar gamera – rydym yn awyddus i weld lluniau amatur sydd wedi'u tynnu â ffonau yn ogystal â delweddau sydd wedi'u tynnu â chamerau digidol.
"Cyhyd â bod y lluniau yn rhoi darlun o fater sy'n agos at eich calon chi neu'ch cymuned, anfonwch hwy atom."
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd â Ffotogallery, hyrwyddwyr y cyfryngau lens yng Nghymru, ac Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon eu delweddau o "Ddemocratiaeth ar Waith yng Nghymru" i http://www.democratiaetharwaith.org/ cyn 31 Awst.
Bydd yr enillydd yn ennill camera SLR (rhodd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a chwrs ffotgoraffiaeth gan Ffotogallery. Bydd 20 o luniau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos yn y Senedd ym mis Medi a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 3 Hydref.
Beirniaid y gystadleuaeth yw:
Rosemary Butler AC – Llywydd y Cynulliad a chadeirydd y panel beirniaid
David Hurn – Newyddiadurwr ffotograffig, aelod o Magnum Photos a sylfaenydd y cwrs BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.
Yr Athro Dai Smith – Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, hanesydd ac awdur llyfrau ar gelfyddydau a diwylliant Cymru.
Gideon Koppell – Artist, cynhyrchydd ffilmiau, Athro Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chymrawd Cysylltiol Coleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen.
Marc Evans – Cyfarwyddwr ffilmiau megis Snow Cake a Hunky Dory ac Athro ar ymweliad yn ATRiuM, ysgol y celfyddydau creadigol, Prifysgol Morgannwg.
Betina Skovbro – trefnydd Photomarathon UK a ffotograffydd ar ei liwt ei hun o Gaerdydd.
Gall y cyhoedd hefyd bleidleisio dros eu hoff lun, a bydd yr enillydd yn derbyn yr un wobr â dewis y beirniaid.