Mwy o Newyddion
App newydd i helpu i ganu’r anthem genedlaethol
Mae Jill Evans ASE wedi lansio App ffôn i helpu defnyddwyr ffonau teithiol ddysgu geiriau’r anthem genedlaethol. Lansiodd Llywydd Plaid Cymru yr App yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ ddydd Mawrth.
Y canwr a’r perfformiwr, Gwenno Dafydd a ysbrydolodd yr App, sy’n canu’r anthem gyda ‘r cerddor ifanc, Harri Davies ar y piano. Mae hefyd yn bosib defnyddio’r App i glywed fersiwn ohono gyda’r piano yn unig, fersiwn ar y gitâr a fersiwn ffonetig wedi ei berfformio gan Gwenno Dafydd.
Dywedodd Jill Evans ASE: “Rwy’n credu fod hwn yn syniad rhagorol. Mae llawer o bobl fyddai’n dwli ar allu canu Hen wlad fy Nhadau yn ansicr o’r geiriau.
"Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw ein hanthem genedlaethol i bobl yn ystod yr wythnosau diweddar a’i fod yn perthyn i bawb yng Nghymru. Nid yw pawb sy’n gallu ei ganu yn siŵr o’i ystyr. Bydd yr App yma’n helpu pob math o bobl o bob oed a dymunaf bob llwyddiant yn y dyfodol i Gwenno a phawb sydd yn ymwneud â hwn.
Dywedodd Gwenno Dafydd: “Rwy’n eithriadol o falch i lansio’r App yma. Mae’n ddiwrnod hanesyddol ac rwy’n gobeithio y bydd yn annog pobl i gael hyder i ganu’n hanthem genedlaethol. Rwy’n credu ei fod yn briodol iawn taw Jill lansiodd yr App drosom ni - fel rhywun sydd â chysylltiadau rhyngwladol ac sy’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol.
"Mae ap Caneuon y Ddraig ar gael o wefan App Store yn barod i’w lawr lwytho heddiw. Bydd ar gael am bris hybu cychwynnol o 69c am gyfnod yr Eisteddfod.”