Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2012

Sut mae gwres yn helpu i drin canser

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi dynodi switsh mewn celloedd a all helpu i ladd tiwmorau gyda gwres. Gellir trin canser y brostad a thiwmorau lleol eraill yn effeithiol trwy gyfuno gwres a chyffur gwrth-ganser sy’n niweidio’r genynnau.  Y tu ôl i’r therapi newydd hwn mae’r gallu anhygoel sydd gan wres i ddiffodd y mecanweithiau goroesi hanfodol sydd mewn celloedd dynol.  Er bod thermotherapi yn cael ei ddefnyddio’n fwy helaeth erbyn hyn, nid yw'r egwyddorion sy'n sail i hyn yn eglur.

Mewn cyhoeddiad diweddar yn y Journal of Cell Science (<http://jcs.biologists.org/content/early/2012/07/10/jcs.104075.abstract>) adroddodd ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol bod gwres yn addasu'r systemau goroesi hyn trwy hybu cynhyrchu protein newydd.  Yn ddiddorol iawn, nid yw’r protein hwn yn cael ei gynhyrchu dim ond pan fydd tymheredd uchel yn actifadu genyn sy’n cuddio tu mewn i enyn arall. 

Meddai Dr Thomas Caspari, arweinydd y grŵp Bioleg Genom,  “Mae’r darganfyddiad hwn yn ein hatgoffa o ddol Rwsiaidd lle mae set o ffigurau pren bach wedi eu gosod tu mewn i ddol fwy o faint.  Gall bodolaeth y genynnau cudd hyn egluro pam bod gan y genom dynol lawer llai o enynnau nag a ddisgwylid yn wreiddiol. Gall ein gwaith hefyd helpu i wella trin canser gyda gwres er lles cleifion. Roedd llwyddiant yr ymchwil hwn o ganlyniad i waith tîm a wnaed yn bosibl trwy gyllid hael gan Ymchwil Canser Cymru a'r rhaglen Leonardo DaVinci Ewropeaidd.”

Rhannu |