Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2012

Cynllun i leihau clefyd y galon yng Nghymru

Ddoe, lansiodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, gynllun newydd pwysig a fydd yn canolbwyntio ar atal clefyd y galon yng Nghymru, gwneud diagnosis cynnar, a rhoi triniaeth iddo, a hynny er mwyn gostwng nifer yr achosion yng Nghymru.

Mae ‘Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon’ yn amlinellu’r modd y caiff gwasanaethau eu gwella trwy Gymru.

Clefyd y cylchrediad sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru, - mwy na 10,000 y flwyddyn. A chlefyd y galon sy’n gyfrifol am 4,700 o’r rhain.

Mae gostwng nifer yr achosion o glefyd y galon yn un o brif ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’i chynllun pum mlynedd ar gyfer y GIG, sef ‘Law yn Llaw at Iechyd’.

Nod ‘Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd y Galon’ yw:

        Atal clefyd y galon trwy addysgu pobl am bwysigrwydd ffyrdd iach o fyw a rheoli cyflyrau cyfredol gyda meddyginiaeth;
        Canfod y clefyd yn gynt trwy wybod pwy sydd â risg o glefyd y galon y mae modd ei osgoi, rheoli’r risg hwnnw’n effeithiol a chanfod clefyd y galon pan fo’n digwydd;
        Darparu triniaeth a gofal yn gyflym ac effeithiol er mwyn gwella’r canlyniad i gleifion yn y tymor hir;
        Darparu cefnogaeth barhaus i gynorthwyo cleifion i reoli effaith clefyd y galon.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gwelliannau mawr yn y gofal a roddir i glefyd y galon yng Nghymru. Er bod llai o bobl yn marw’n gynamserol yng Nghymru o ganlyniad i drawiad ar y galon, mae’n dal yn un o’r pethau sy’n lladd fwyaf yng Nghymru.

“Rhaid inni wneud rhagor i atal clefyd y galon y mae modd ei osgoi, adnabod y rhai sydd â risg, a rheoli’r risg hwnnw’n dda. Pan fo clefyd y galon yn digwydd, rydyn ni am ganolbwyntio ar gael diagnosis prydlon a’r driniaeth orau.

“Mae’r cynllun newydd hwn yn amlinellu sut y mae gan y Llywodraeth, y GIG, ac unigolion ran i’w chwarae i ostwng nifer yr achosion o glefyd y galon.”

Dywedodd Dr Chris Jones, Cardiologydd a Chyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru: “Mae clefyd y galon yn gyflwr y mae modd ei osgoi i raddau helaeth, ac yn gyflwr y mae oedran yn cynyddu’r risg y gallai ddigwydd.

“Gellir lleihau’r risg hwnnw trwy wneud newidiadau bach i’n ffordd o fyw, fel peidio â smygu, yfed alcohol yn synhwyrol, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a bwyta deiet iach a chytbwys er mwyn lleihau’r risg o ordewdra, sef rhywbeth sy’n cyfrannu’n fawr at gynyddu’r risg o ddiabetes, ac o glefyd y galon yn y pen draw.”

Dywedodd yr Athro Peter Weissberg, Cyfarwyddwr Meddygol Sefydliad Prydeinig y Galon: “Rydyn ni’n croesawu’r ymgynghoriad yma, yn enwedig oherwydd y pwysau ariannol ar y gwasanaeth iechyd. Byddwn yn disgwyl i’r cynllun amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag atal clefyd y galon yn gynnar a darparu gofal parhaus iddo, a byddwn yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn y gorau o ran cefnogaeth i atal clefyd y galon a gofal parhaus iddo.”

Llun: Lesley Griffiths

Rhannu |