Mwy o Newyddion
Isaias Grandis yw dysgwr y flwyddyn
Nos Fercher, cyhoeddwyd mai Isaias Grandis yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg. Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Bear, Y Bontfaen.
Roedd pedwar ar y rhestr fer eleni, Ashok Ahir o Gaerdydd, Rhian Dickenson o’r Fenni, Isaías Grandis o Trevelin, Chubut, a Mark Morgan o Bontyclun, ond penderfynodd y beirniaid mai Isaías Grandis ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth arbennig o agos eleni.
Bu canmol mawr i’r gystadleuaeth eleni, a meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, “Mae’r safon eleni wedi bod yn arbennig o uchel, a braf yw gweld cynifer wedi cystadlu. Mae’n arwydd clir o dwf a phwysigrwydd y gystadleuaeth hon fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol.”
Agored Cymru yw noddwyr cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, a meddai Janet Barlow, Prif Weithredwr y sefydliad, “Ein llongyfarchion cynhesaf i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni. Mae’r ymroddiad a safon yn eithriadol o uchel, ac mae Agored Cymru’n falch i fod yn noddi digwyddiad a gweithgaredd mor boblogaidd.”
Treuliodd Isaías ei fywyd cynnar yng Nghórdoba cyn ymgartrefu gyda’i deulu yn Nhrevelin, Godre’r Andes.
Nid yw’n dod o dras Gymreig ond ar ôl symud i Drevelin, magodd ddiddordeb yn yr iaith ‘estron’ a glywai’n cael ei siarad gan ei gymdogion. Dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes yn 15 mlwydd oed, a chafodd ysgoloriaeth i fynd i Gymru yn 2006.
Dychwelodd i Gymru yn 2009 ac arsylwi yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog a mynychu cwrs iaith dwys ym Mhrifysgol Caerdydd. Derbyniodd hyfforddiant hefyd yn nulliau dysgu iaith i blant mewn dwy ysgol gynradd.
Dychwelodd i Batagonia a chymryd swydd fel tiwtor Cymraeg lleol yn Ysgol Gymraeg yr Andes, athro yn Ysgol y Felin, athro Hanes Cymru yn yr Ysgol Uwchradd leol ac fel athro Twristiaeth yn Ysgol Uwchradd Corcovado.
Mae’n ymdrechu i godi delwedd y Gymraeg o fewn y gymuned drwy ddenu myfyrwyr, hen ac ifanc, i’r Ysgol Gymraeg.
Mae’n gobeithio cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ei ardal leol, a’i freuddwyd pennaf yw adeiladu Ysgol Ddwyieithog (Cymraeg a Sbaeneg) yn Nhrevelin fel Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.
Cyflwynwyd y Tlws eleni gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, gyda’r wobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri.