Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2012

Gareth Hughes yn ennill Tlws y Cerddor

Ar gyfer cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni gofynwyd am sonata i delyn a ffliwt a ddylai gynnwys o leiaf dri symuudiad gwrthgyferbyniol hyd at 10 munud o hyd.

Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor sydd yn rhoddedig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru unwaith eto eleni, mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sydd yn cael ei rhoi Densil a Beti Wyn Davies,Penarth ynghyd a’u plant. Hefyd cynigir ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.

Ymgeisiodd 7 a beirniadwyd y gwaith gan Richard Elfyn Jones a Deian Rowlands ac mae’r ddau yn cytuno fod gwaith Deryn Amheuthun yn haeddu’r wobr a’r clod. Yr enillydd yw Gareth Hughes o Gaerdydd.

Yn ôl y beirniaid  roedd gwaith Gareth Hughes, sef tri symudiad yn seiliedig ar delyneg enwog John Morris Jones ”Cwyn y Gwynt” yn sefyll mewn dosbarth ar ei ben ei hun. Mae ei fys ar byls y syniadaeth ddiweddaraf am gynghanedd a rhythm ac mae’r gwead yn soffistigedig iawn.

Yn gyffredinol, nid gwaith i’w lawn werthfawrogi ar wrando arno unwaith yw hwn gan y bu’n raid iddynt archwilio’r tudalennau yn ofalus er mwyn gwerthfawrogi’r cyfrinachau technegol a chyfoeth y mynegiant. Mae’r gwaith yn gyfoes ac o ansawdd uchel sy’n dangos cyfansoddwr sydd â’r gallu i ymdopi a’r rhwystrau technegol i gromatyddiaeth sydd mor aml yn wynebu unrhyw gyfansoddwr cyfoes sy’n ysgrifennu ar gyfer y delyn.

Ganwyd Gareth Hughes yng Nghaerdydd ym 1979 yn fab i Sara Martel Hughes ac ŵyr i Sally Hughes a’r diweddar Dr John Martel Hughes, a fu’n gadeirydd pwyllgor Gwaith Eisteddfodau Cenedlaethol Casnewydd ym 1988 a 2004. Addysgwyd ef yn Ysgol Bro Eirwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, lle bu’n astudio Cerddoriaeth dan Alun Guy a Delyth Medi Jones. Dechreuodd gael gwersi piano pan oedd yn naw mlwydd oed gyda Timothy Lyons ac aeth ymlaen i barhau i ddysgu’r piano gyda Dafydd Meurig Thomas, Haydn Morgans, Dr Keith Michael Griffiths a’r Athro Carole Oakes yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ym 1997, aeth i King’s College, Llundain, i astudio ar gyfer gradd B. Mus. mewn Cyfansoddi Cyfoes dan Syr Harrison Birtwistle, Robert Keely a Silvina Milstein, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2000. Ar ôl cwblhau gradd ôl-raddedig, datblygodd Gareth ddiddordeb byw mewn cerddoriaeth electro-acwstig ac yn 2003 cwblhaodd radd M. Phil. mewn Cerddoriaeth Electro-Acwstig dan yr Athro Jonty Harrison a Dr Erik Oña.

Ar hyn o bryd, mae Gareth yn astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Cyfansoddi gyda Dr Arlene Sierra ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar fin dechrau’i flwyddyn olaf. Ym mis Chwefror 2012, perfformiwyd symudiad o’i waith symffonig, ‘Visions of Existence’, gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn gweithdy ar gyfer cyfansoddwyr ifainc yn Neuadd Hoddinott.

Mae Gareth eisoes wedi gael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol: yng Nghasnewydd yn 2004,  dyfarnodd y beirniad, Terry James, y wobr iddo am gyfansoddi symudiad cerddorfaol, ac yng nghystadleuaeth yr unawd piano daeth yn drydydd yn 2004 ac yn ail yn 2010.

Rhannu |