Mwy o Newyddion
Y cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar gytundeb gweithredu'r BBC a S4C
MAE Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cytundeb Gweithredu sydd yn amlinellu’r berthynas fydd rhwng y ddau ddarlledwr unwaith y daw mwyafrif cyllid S4C o ffi’r drwydded o fis Ebrill 2013.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus, a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg heddiw, yn gwahodd unigolion a grwpiau i fynegi eu barn ar y Cytundeb Gweithredu dros y 10 wythnos nesaf, gyda dyddiad cau ar ddydd Mawrth 23 Hydref.
Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, y byddai mwyafrif incwm S4C yn dod o Ffi’r Drwydded o 2013.
Yn dilyn hynny, ym mis Hydref 2011, daeth Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC i gytundeb, a fyddai’n weithredol o 2013, er mwyn sicrhau bod annibyniaeth golygyddol a rheolaethol gwasanaeth S4C yn cael ei warchod ac yn sicrhau atebolrwydd addas i Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer y cyllid Ffi Trwydded i’r sianel. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i’r cyhoedd farnu a yw’r Cytundeb Gweithredu, a fydd y ddogfen atebolrwydd allweddol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C, yn adlewyrchu’n gywir y cytundeb a wnaethpwyd yn 2011 ai peidio.
Dywedodd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, yr Athro Elan Closs Stephens: “Fy mhrif flaenoriaeth yw helpu S4C i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith a diogelu annibyniaeth golygyddol S4C tra ar yr un pryd sicrhau bod cyllid ffi’r drwydded yn cael ei wario yn ddoeth. Mae’r cytundeb newydd hwn rhwng y BBC ac S4C yn adeiladu ar bartneriaeth llwyddiannus rhyngom dros y 30 mlynedd diwethaf.”
Ychwanegodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Rwy’n credu bod y Cytundeb Gweithredu yn rhoi sicrwydd bod dyfodol S4C a’i gallu i weithredu’n annibynnol wedi’u diogelu, tra’n sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC dros y defnydd o ffi’r drwydded.”