Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2012

Cerddwn Ymlaen gyda Rhys Meirion ar Heno

Ym mis Awst, mae'r tenor Rhys Meirion yn mynd am dro go hir er mwyn codi arian at achos da. Gan ddechrau yn Abertawe ar ddydd Gwener 17 Awst, bydd Rhys yn cerdded i'r Trallwng ac yna ymlaen i Gaernarfon, sef lleoliad tair canolfan Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ymuno ag ef bob cam bydd y cyflwynydd Gerallt Pennant a bydd gwylwyr Heno yn gallu dilyn eu taith ar y rhaglen o ddydd Llun, 20 i nos Wener, 24 Awst.

"Pan soniodd Rhys wrtha i am y daith gerdded roeddwn i'n gwybod yn syth y buaswn i'n hoffi ymuno ag o," meddai Gerallt, sy'n adnabod Rhys yn dda. "Pan gafodd o'i ddewis yn llysgennad elusen Ambiwlans Awyr Cymru roedd o'n benderfynol o wneud rhywbeth mwy na bod yn wyneb i'r elusen, a dyna sut daeth y syniad ar gyfer taith gerdded."

Er bod Gerallt yn mwynhau cerdded, dyma'r tro cyntaf iddo ymgymryd â her o'r math yma.

"Bydda i'n mynd i gerdded bob penwythnos ond dwi erioed wedi gwneud y pellter yma o'r blaen. Hefyd, yn y mynyddoedd bydda i fel arfer yn cerdded ac mi alla i wneud hynny drwy'r dydd, ond mae meddwl am darmac dan draed yn achosi ychydig bach o fraw," meddai Gerallt, sy'n un o'r cerddwyr craidd sy'n cerdded y daith gyfan.

Mae'r grŵp craidd yn cynnwys peilotiaid a pharafeddygon yr Ambiwlans Awyr, Owain Meirion sef mab Rhys a'i frawd yng nghyfraith Dr Dylan Parry. Ond mae croeso i bobl eraill ymuno â nhw bob dydd.

"Bydd Rhian 'Madam Rygbi' Davies hefyd yn cerdded yr holl ffordd. Mae hi'n siŵr o gadw'r wên ar ein hwynebau!" chwardda Gerallt.

Bob nos bydd Gerallt yn gohebu'n fyw ar Heno ac yn sôn am ddigwyddiadau'r dydd. Bydd y camerâu'n eu dilyn wrth gerdded ac mae Gerallt yn siŵr o fachu ar y cyfle i sgwrsio â hwn a'r llall ar hyd y daith.

"Dwi wedi llwyddo i berswadio rhai o dîm Heno i ymuno â ni. Bydd Angharad Mair efo ni am ddiwrnod ac mae Elin Fflur am gerdded cymal. Mae Aneirin Karadog hefyd wedi awgrymu y byddai o'n licio ymuno," meddai Gerallt.

Y nod yw gorffen y daith ym maes awyr Dinas Dinlle, Caernarfon erbyn dechrau Gŵyl Gobaith sy'n cael ei chynnal yn Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy. Bydd Rhys yn teithio'n syth o'r llinell derfyn i berfformio ar y llwyfan gyda'r soprano Hayley Westenra. Cawn fwynhau uchafbwyntiau'r Ŵyl mewn rhaglen arbennig ar S4C ym mis Medi.

"Bydd e'n cerdded cyfartaledd o 26 milltir y dydd ac wedyn yn mynd yn syth i berfformio mewn cyngerdd safonol, felly mae Rhys yn haeddu pob cefnogaeth a chymeradwyaeth. Mae'r cerdded ei hun yn ddigon o orchest heb sôn am fynd i berfformio wedyn!" meddai Gerallt, sy'n gobeithio y bydd yr holl waith caled yn talu ei ffordd ac yn llwyddo i godi miloedd o bunnoedd er budd gwasanaeth sy'n achub bywydau. 


"Rhai blynyddoedd yn ôl, dwi'n cofio ffilmio eitem gyda gŵr a gafodd ei achub gan yr Ambiwlans Awyr," cofia Gerallt. "Roedd o wedi colli wyth peint o waed a heb yr hofrennydd fyddai o ddim wedi byw. Mae cwrdd â rhywun felly yn pwysleisio pa mor bwysig yw'r gwasanaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."

Mae rhagor o wybodaeth am y daith ar y wefan cerddwnymlaen.com. Yno mae modd cyfrannu at yr elusen a chofrestru i ymuno â'r daith gerdded. Mae hefyd gwybodaeth am y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar ddiwedd y daith bob dydd yn cynnwys noson gyda Max Boyce, noson gomedi a cherddoriaeth gyda Tudur Owen ac Elin Fflur a pherfformiad gan Lucie Jones, un o gystadleuwyr cyfres cariad@iaith 2012. 

Heno
Bob nos Lun i nos Wener 7.00pm, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

 

Llun: Rhys Meirion, Rhian 'Madamrygbi' Davies a Gerallt Pennant

Rhannu |