Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Awst 2012

Prif Weithredwr S4C yn hyderus am ddyfodol y sianel

Wrth i S4C baratoi i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed yn yr hydref eleni, mae Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones yn gwbl hyderus am ei dyfodol.

Wrth draddodi Darlith Goffa Owen Edwards, ‘Cario’r Fflam’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg heddiw (dydd Iau 9 Awst) dywedodd Ian Jones fod dyfodol y sianel yn ‘gyffrous’ a bod gan Gymru lawer i ddathlu am berfformiad S4C dros y blynyddoedd.

Wrth atgoffa’i gynulleidfa o gyfraniad S4C i Gymru ac i’r iaith Gymraeg, dywedodd Ian Jones fod y sianel wedi cychwyn ym mis Tachwedd 1982 gan ddarlledu 22 awr yr wythnos o raglenni yn yr iaith Gymraeg. Heddiw mae’r sianel yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac yn darlledu dros 120 awr yr wythnos o raglenni a gwasanaethau amrywiol.

Ymhlith darlledwyr ieithoedd lleiafrifol mae S4C yn unigryw, meddai Ian Jones. “Y gwahaniaeth sylfaenol yw bod S4C yn wasanaeth cyflawn, cynhwysfawr. Dyna sy’n gwneud S4C yn unigryw ac yn werthfawr, a dyna sy’n rhaid inni ei amddiffyn. Dim ond gwasanaeth cyflawn fedr adlewyrchu a dathlu bywyd y genedl,” meddai.

Er mwyn parhau i fod yn wasanaeth teledu cynhwysfawr ac er mwyn gallu symud ymlaen i feysydd cyfryngau digidol ac aml-blatfform, mae’n rhaid sicrhau arian digonol i S4C, meddai Ian Jones.

Un enghraifft o ddatblygiadau digidol ac aml-blatfform y sianel yw darpariaeth Ti, Fi a Cyw, gwasanaeth sydd wedi ei anelu’n benodol at rieni di-gymraeg a dysgwyr sy’n dymuno gwylio rhaglenni Cyw gyda’u plant – cynllun fydd yn cael ei lansio yn hwyrach heddiw ar faes yr Eisteddfod. 

Ar gael o fis Medi ymlaen, bwriad y ddarpariaeth yw cynnig gwybodaeth ar ail sgrin fel bod teuluoedd yn medru ymuno yn yr hwyl gyda’u plant a chysylltu gydag eraill yn ystod y darllediadau ac i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg.

Mynegodd Ian Jones ei awydd i gydweithio’n agos gyda llu o sefydliadau eraill a phartneriaid wrth i’r sianel wynebu’r dyfodol. Pwysleisiodd hefyd ran y gwylwyr yn nyfodol y sianel.

"Dw i’n awyddus iawn i gydweithio gyda’r gwahanol sefydliadau sy’n allweddol i’r iaith, boed hynny y Cynulliad, y Llywodraeth yn Llundain a’r rhanddeiliaid eraill, fel ein bod i gyd yn gwneud y gorau o’r adnoddau prin, a bod yna fwy o gydgysylltu strategol, gwell dealltwriaeth, a rhagor o dynnu i’r un cyfeiriad, ynglŷn â dyfodol yr iaith Gymraeg,” meddai.

Dywedodd Ian Jones ei fod yn awyddus iawn i ystyried y posibilrwydd o ddatganoli S4C ymhellach, ac efallai edrych ar dri lleoliad neu dair canolfan ar gyfer S4C rywbryd yn y dyfodol, sef un yng Nghaerdydd, un yn y Gorllewin ac un yn y Gogledd. “Ffolineb fyddai peidio trafod posibiliadau o’r fath os yw’r gwasanaeth yn mynd i elwa o hynny, ac os bydd y gynulleidfa’n teimlo rhagor o berchnogaeth drwy hynny ac y byddai’n gwneud synnwyr economaidd i wneud,” meddai.

Ychwanegodd Ian Jones, “Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu am gyflwr y Gymraeg, ac am berfformiad S4C. Mae gennym lawer i fod yn hyderus yn ei gylch. Gobeithio ein bod ni i gyd, yn ddarlledwyr a chynulleidfa, yn teimlo y medrwn ni barhau i gario’r fflam gyda hyder a balchder.”

Darllenwch yr araith yma - http://www.s4c.co.uk/production/downloads/darlith_goffa_owen_edwards_9_8_12.pdf

Rhannu |