Mwy o Newyddion
Derbyn Cynllun Ffioedd Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2013/14
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawi’r cyhoeddiad gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch fod cynllun ffioedd y Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/2014 wedi’i dderbyn.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Croesewir cyhoeddi sêl bendith y Cyngor Cyllido gennym ar gyfer ein cynlluniau incwm ffioedd. Bydd ein cynllun ffioedd ar gyfer 2013/2014 yn adeiladu ar y gwaith a gyhoeddwyd gennym yn ein cynllun ar gyfer 2012/13 i wella’n fwyfwy'r profiad myfyriwr ardderchog a geir yn Aberystwyth, i gefnogi ein myfyrwyr i lwyddo, ac i ehangu mynediad i Addysg Uwch i bawb sydd â’r gallu i gael budd ohono.
"Yr ydym yn falch o’r dulliau dyfeisgar a chreadigol a ddefnyddir gennym i fynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac ehangu argaeledd, ac mae ein hymrwymiadau yn y cynllun ffioedd yn adlewyrchu hyn. Byddwn yn parhau, trwy’r cynllun ffioedd, i ddarparu cefnogaeth mewn ystod o ymgyrchoedd i dynnu ymaith y rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynychu addysg uwch, gan groesawi myfyrwyr galluog a thalentog o bob cefndir a’u cefnogi er mwyn eu galluogi i wireddu eu potensial.
"Yr ydym hefyd yn ymrwymedig at sicrhau y bydd pob un o’n myfyrwyr yn elwa o awyrgylch dysgu o’r safon gorau a byddwn yn buddsoddi’n helaeth yn ein safleoedd addysgu a dysgu dros y bum mlynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau fod eu barn hwy yn rhan o’r ystyriaethau ar sut y defnyddir yr incwm ffioedd, ac fel rhan o gynllun 2013/14 bydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau’r myfyrwyr am y dulliau gorau i wella ac ehangu ar ein hardaloedd dysgu.
"Mae’n cynllun newydd yn gosod pwyslais mwy pendant ar gyflogadwyedd. Mae’r addysg brifysgol orau yn paratoi’r myfyriwr am fywyd o ymholiad, sialensiau, a datblygiad parhaus fydd yn ei alluogi i ddeall gwerth y sgiliau sydd ganddo ef neu hi wrth law. Trwy ein cynllun ffioedd yr ydym yn buddsoddi adnoddau pellach mewn gyrfaoedd i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, ac yn sicrhau y bydd gan bob myfyriwr graddedig o Aberystwyth y cyfle gorau posibl o lwyddo ym mha bynnag yrfa y byddant yn ei dewis.
"Yn gyffredinol, hyderwn fod y cydbwysedd gwaith yn ein cynllun ffioedd yn adlewyrchu buddsoddiad da yn natblygiad a chefnogaeth ar gyfer ein myfyrwyr a dengys ein hymroddiad i ddarparu’r profiad gorau posibl i’r myfyrwyr yn Aberystwyth a’r dyfodol gorau posibl hefyd.”
Ymysg y mesurau a gynigir yng Nghynllun Ffioedd Prifysgol Aberystwyth mae:
• Buddsoddi £1m mewn cynllun bwrsariaeth wedi’i brofi ar sail modd a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth cyllid i fyfyrwyr o gefndir incwm isel. Dylai oddeutu 1,000 o fyfyrwyr a fydd yn dechrau yn PA ym mis Medi 2013 dderbyn budd o hyn.
• Darparu, ym Mhrifysgol Haf Aberystwyth, llefydd i oddeutu 80 o bobl ifainc o ardaloedd lle, yn draddodiadol, ceir nifer isel o fynychwyr Addysg Uwch.
• Ehangu’r ddarpariaeth a gynigir i fyfyrwyr ag anghenion arbennig.
• Ehangu’r ddarpariaeth dysgu ar-lein, yn cynnwys recordiadau darlith, ar gyfer dysgu mwy ystwyth.
• Buddsoddiad mewn cyfres o welliannau strwythur er mwyn sicrhau fod myfyrwyr yn cael y budd mwyaf o amgylchedd ddysgu ardderchog ac adnoddau cyfrifiadurol penigamp.
• Buddsoddiad mewn lleoliadau ar gyfer myfyrwyr dan hyfforddiant, gan gynnwys datblygiad arweiniad a sgiliau rheolaeth a chynlluniau mentora graddedigion a lleoliadau profiad gwaith, i hyrwyddo cyflogadwyedd ein graddedigion.
Gellir gweld Cynllun Ffioedd Prifysgol Aberystwyth yn gyfan ar http://www.aber.ac.uk/cy/university/student-fees/.