Mwy o Newyddion
Elen Clos Stephens yn ymuno ag Awdurdod S4C
Mae Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C wedi croesawu apwyntiad Elan Closs Stephens i Awdurdod S4C.
Bydd yr Athro Emeritws Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru , sydd wedi ei phenodi gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, yn cychwyn yn y swydd yn syth a mynychodd ei chyfarfod cyntaf o’r Awdurdod ddoe.
Mae apwyntiad Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru i’r Awdurdod yn deillio o’r cytundeb rhwng Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a’r DCMS ar gyllido, llywodraethu ac atebolrwydd S4C yn y dyfodol hyd at 2017.
Rôl yr Athro Stephens fydd i fod yn gyfrwng cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C er mwyn sicrhau fod annibyniaeth golygyddol a gweithredol S4C yn cael ei warchod, ac i sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC am yr arian ffi trwydded a werir gan y sianel.
Dywedodd yr Athro Stephens: “Rwyf wrth fy modd yn dychwelyd i Awdurdod S4C. Fy mhrif flaenoriaeth fydd helpu i sicrhau fod S4C yn darparu’r gwasanaeth teledu gorau posib i siaradwyr Cymraeg, ac i warchod annibyniaeth golygyddol S4C, tra’n gofalu bod arian ffi’r drwydded yn cael ei wario’n ddoeth. Rwy’n benderfynol fod perthynas gwaith agosach rhwng BBC Cymru ac S4C yn arwain at ail-fuddsoddi arbedion mewn rhaglenni o ansawdd uchel er budd cynulleidfaoedd.
“Fy ngobaith hefyd yw y bydd y bartneriaeth yn arwain at danio brwdfrydedd a chefnogi creadigrwydd yn y cyfryngau Cymreig.”
Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Rwy’n croesawu penodiad Elan Closs Stephens fel aelod o Awdurdod S4C. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfraniad allweddol y bydd gan Elan i’w wneud yn y broses o greu partneriaeth newydd effeithiol rhwng S4C a’r BBC.”