Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Digwyddiadau OPRA Cymru

Mae’r cwmni opera Cymraeg unigryw, OPRA Cymru yn cyflwyno dau gynhyrchiad yn ystod y tri mis nesaf.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni byddant yn cyflwyno ‘Gan Bwyll! Don Pascwale’ eu cynhyrchiad poblogaidd o waith Donizetti, gyda’r bâs bariton poblogaidd Arwel Huw Morgan yn cymryd rhan Don Pascwale ei hun, ynghyd â Iwan Davies, Ceirios Haf a’r tenor adnabyddus Robyn Lyn. Naws anffurfiol fydd i’r perfformiadau gan iddynt gael eu perfformio ym mhabell fwyd Capital Cuisine ar brynhawniau Llun, Mawrth, Iau a Sadwrn am 3 o’r gloch gyda perfformiad ychwanegol am 11 y bore ar ddydd Iau. Mae mynediad am ddim i’r sioe ond gan mai nifer cyfyngedig o seddau sydd ar gael, fe’ch annogir i gyrraedd yn fuan er mwyn sicrhau lle.

Bydd y cwmni hefyd yn teithio Cymru am y trydydd tro ym mis Medi 2012 a’r tro yma cynhyrchiad newydd o ‘Macbeth’ gan Verdi, a gyfansoddwyd pedair blynedd yn unig ar ôl campwaith gomic Donizetti fyddant yn gyflwyno. Cyfunir stori ddramatig Shakespeare gyda rhai o ddarnau cerddorol mwyaf cofiadwy a gwefreiddiol Verdi yn yr opera yma. Wedi ei gyflwyno ar ffurf theatr arena, sydd erbyn hyn yn nodwedd o waith y cwmni yma, adlewyrchir gwerthoedd theatrig Shakespearaidd yn y cynhyrchiad; tra bo symlrwydd y llwyfannu yn gadael i’r gynulleidfa ganolbwyntio ar seicoleg dywyll ac aflonydd y prif gymeriadau. Dyma stori ‘uchelgais ffrostus ‘ digyfaddawd ac angerddol Macbeth.

Braint yw cyflwyno cast godidog o unawdwyr: y baritôn Phil Gault, Scottish Opera, fydd yn chwarae Macbeth, gyda’r unawdydd rhyngwladol Anne Williams-King yn ymuno ag ef i chwarae rhan Arglwyddes Macbeth. Mae’n bleser gennym hefyd gyflwyno yr enillydd BAFTA Cymru Huw Euron sydd yn adnabyddus fel canwr ac actor yn ei rôl operatig gyntaf; a’r tenor ifanc Elgan Thomas, enillydd ysgoloriaeth Bryn Terfel. Fydd corws bach o gantorion ifanc yn ymyno â nhw a gyda’i gilydd fyddant yn rhoi bywyd dramatig i brif ddarnau cerddorol yr opera hon.

Mewn ferswin Gymraeg newydd o gampwaith gwreiddiol Verdi, a grewyd yn arbennig ar gyfer y daith hon, fydd cynhyrchiad OPRA Cymru yn cyflwyno cyfuniad o theatr a cherdd heb ei hail dan gyfarwyddyd llwyfan cyfarwyddwr artistig y cwmni, Patrick Young.

Mae’r daith yn cynnwys 5 perfformiad ysgol yng Ngwynedd fel uchafbwynt i gyfres o weithdai ysgolion a luniwyd yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad yma, a pherfformiadau cyhoeddus yn Neuadd Goffa Pontyberem (8fed o Fedi); Chapter, Caerdydd (12fed a 13eg o Fedi); Rhosygilwen (14eg o Fedi); Canolfan Wyeside, Llanfair ym Muallt (15fed o Fedi); Neuadd Goffa Cricieth (18fed o Fedi), Neuadd Egryn, Llanegryn (19eg o Fedi); Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog (20fed o Fedi); Neuadd Goffa Aberaeron (21ain o Fedi) a Neuadd Powis, Bangor (22ain o Fedi). Perfformiadau i gyd yn Gymraeg, yn cychwyn am 7.30 p.m. ac yn gorffen am 9.30 p.m.

 

Rhannu |