Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

AC yn galw i ddangos y llawsgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn y Senedd

Mae Aelod Cynulliad Simon Thomas wedi galw i ddangos Llawsgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn y Senedd.

Mae'r A elod Canolbarth a Gorllewin wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad Rosemary Butler ac Andrew Green o’r Llyfrgell Genedlaethol  i ofyn am drafodaethau er mwyn arddangos Llawysgrif Boston yn y Senedd.

Mae Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dod yn ôl i Gymru ar ôl i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wneud cynnig llwyddiannus mewn ocsiwn yn Sotheby’s Llundain, gyda chymorth ariannol oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Cafodd y llawysgrif ganoloesol prin o’r 14eg ganrif ei gwerthu am £541,250 ac mae’n cael ei ystyried yn un o drysorau diwylliant Cymru ac yn symbol hanfodol o hunaniaeth genedlaethol.

Dywedodd yr aelod Plaid Cymru: “Yn sgil prynu Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda a’i dychwelyd i Gymru hoffwn weld  y llawysgrif yma yn y Senedd.

Yn ogystal â bod yn llyfryn sydd yn werthfawr yn ddiwylliannol, yn ariannol ac yn hanesyddol mae Pwyllgor Cyfansoddiadol y Cynulliad yn ymchwilio i awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a  Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y mater. Byddai yn amserol ac yn berthnasol iawn felly i gael y llyfryn hwn oedd mor bwysig yn ei ddydd, ac yn amlwg yn cael defnydd, yn y Senedd am gyfnod byr.

Mae’n debyg y bydd y llawysgrif yn rhan o arddangosfa deithiol a byddai’n dda o beth i’r llawysgrif ddod i’r Senedd. Hoffwn ddiolch a llongyfarch y Llyfrgell Genedlaethol am sicrhau bod llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dychwelyd i Gymru.”

Ychwanegodd Mr Thomas: “Ar ôl y refferendwm llwyddiannus dyma’r amser i ddod â chyfraith Cymru gan ail-sefydlu llyfr statud. Dyma sut i wneud cyfraith Cymru yn eglur ac yn hygyrch i bawb.”

Llun: Simon Thomas

Rhannu |