Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Hartson yn arwyddo cytundeb newydd gyda Sgorio

Bydd cyn ymosodwr Cymru, John Hartson, yn parhau yn ei rôl fel un o arbenigwyr cyfres Sgorio am y ddwy flynedd nesaf .

Ymunodd cyn ymosodwr Arsenal, West Ham a Celtic â thîm Sgorio yn 2010 gan weithio fel arbenigwr yng ngemau Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan FA Lloegr a gemau rhyngwladol Cymru.

“Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd i mi gael y cyfle i weithio yn fy mam iaith,” meddai Hartson, enillodd 51 cap dros Gymru rhwng 1995 a 2005. “Mae hi’n bleser cael bod yn rhan o dîm arbennig Sgorio a ‘wy’n edrych ymlaen yn arw at y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd Hartson a gweddill tîm Sgorio yn cyflwyno’r frwydr rhwng Y Seintiau Newydd a Helsingborgs o Sweden yng Nghynghrair y Pencampwyr yn fyw ar S4C ar nos Fawrth 17 Gorffennaf.

Morgan Jones sy’n cyflwyno’r darllediadau gyda John a chyn gôl-geidwad Cymru Dai Davies yn cynnig sylwadau yn ystod y rhaglen. Malcolm Allen fydd yn cadw cwmni i Dylan Ebenezer yn y blwch sylwebu ar gyfer cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol.

“Mae cael rhywun o statws John yn ychwanegu hygrededd i’r darllediadau ac mae’n newyddion gwych i ni ei fod am barhau yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae hyn hefyd yn brawf o ymroddiad John, Sgorio ac S4C i bêl-droed yng Nghymru,” meddai Uwch Gynhyrchydd Sgorio, Emyr Davies.

Bydd Sgorio yn dychwelyd i S4C ar brynhawn Sadwrn 18 Awst wrth i dymor swyddogol Uwch Gynghrair Cymru ddechrau. Port Talbot fydd yn herio Llanelli yn ornest gyntaf y tymor newydd.

 

Rhannu |