Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Grantiau ar gael ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am grantiau o dan ei rhaglen i hyrwyddo’r Gymraeg yn 2013/14.

Bydd y grantiau yn cefnogi amcanion Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd Llywodraeth Cymru Iaith Fyw: Iaith Byw.

Prif ffocws y grantiau fydd cefnogi gweithgareddau sy’n gwneud y canlynol:

 ·        annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd.

 ·        cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chodi eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith.

 ·        cryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned.

 Caiff ceisiadau hefyd eu hystyried ar gyfer amcanion eraill y strategaeth, sef:

 ·   cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

 ·   gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion

 ·        cryfhau’r seilwaith, gan gynnwys technoleg a’r cyfryngau, ar gyfer yr iaith.

 Caiff ceisiadau am grantiau eu derbyn gan sefydliadau o’r trydydd sector a’r sector preifat a chan gyrff cyhoeddus ar gyfer gweithgareddau na chaiff eu cynnwys yn eu cynlluniau iaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Medi 2012.

 I gael gwybodaeth ar sut i wneud cais ewch i:
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/grantswelshlanguage/?lang=cy

 

Rhannu |