Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Staff Prifysgol Bangor yn cefnogi elusen leol

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae staff Prifysgol Bangor wedi codi dros £ 11,000 ar gyfer Tŷ Gobaith yng Nghonwy ac ar ddydd Iau, 12 Gorffennaf, cyflwynodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol siec am £ 11,760 i reolwr Codi Arian Tŷ Gobaith , Sarah Kearsley-Woller MBE.

Codwyd yr arian gan staff a myfyrwyr trwy ddigwyddiadau amrywiol gan gynnwys, loteri staff a gododd £ 2,500, a thaith gerdded noddedig i fyny'r Wyddfa a gododd £ 615. Fe wnaeth Clwb Dawnsio Undeb y Myfyrwyr hefyd godi £1,000 drwy deithiau cerdded a dawnsio noddedig. Fe wnaeth staff hefyd roi rhoddion elusennol yn hytrach nag anrhegion a chardiau i gydweithwyr dros y Nadolig. Codwyd bron i £1,000 hefyd drwy deithiau beicio noddedig amrywiol. Yn gynharach eleni, fe gafodd aelodau o staff eu gwahodd i lenwi holiadur am fywyd gwaith yn y Brifysgol ac ar gyfer pob un o'r holiaduron a gwblhawyd, fe roddodd y Brifysgol £5 i Dŷ Gobaith, gan godi £6,065.

Bydd staff hefyd yn cefnogi'r elusen yn y dyfodol ac yn ystod mis Awst, bydd Hazel Frost o'r Ysgol Seicoleg ac Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes Bangor yn dringo Kilimanjaro. Bydd yr holl elw yn cael ei rannu rhwng cronfa goffa Rhys Darren Frost a Thŷ Gobaith.

Dywedodd Joe Patton, o adran Iechyd a Gwasanaethau Diogelwch y Brifysgol: "mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cefnogi Tŷ Gobaith am bron i ddegawd  ac ers mis Ionawr 2010 rydym wedi casglu £23,760.

"Er bod hwn yn swm sylweddol o arian, rydym yn ymwybodol bod y costau rhedeg blynyddol yn y rhanbarth o £4 miliwn. Am y rheswm hwn, mae Tŷ Gobaith yn gofyn nid yn unig am ein cefnogaeth barhaus, ond hefyd bod Cyflogwyr eraill yn codi arian."

Hosbisau plant yw Tŷ Gobaith sydd yn darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd yn dioddef o salwch terfynol, yn ogystal â chefnogi e'u teuluoedd. Maent  yn cefnogi dros 320 o blant a theuluoedd ar hyn o bryd yn Hope House yng Nghroesoswallt a Thŷ Gobaith yng Nghonwy.

 

Rhannu |