Mwy o Newyddion
Adroddiad yn argymell bod Bae Abertawe yn cael statws Dinas-ranbarth
Efallai y bydd mwy o gyfleoedd gwaith a buddsoddiad ar y ffordd i Fae Abertawe ar ôl i adroddiad argymell statws Dinas-ranbarth i'r ardal.
Yn ôl yr adroddiad, dylai Bae Abertawe - ardal sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr – gael y statws newydd i helpu i sbarduno twf economaidd.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad cyn datgan ei safbwynt yn swyddogol yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae'r argymhelliad yn golygu y gallai Bae Abertawe ddilyn ôl troed dinasoedd eraill yn y DU ac Ewrop fel Lerpwl, Birmingham a Bilbao lle mae statws Dinas-ranbarth wedi dod â buddion economaidd sylweddol.
Byddai'r ffocws ym Mae Abertawe ar ddatblygu economi flaengar a chynaliadwy sy'n defnyddio'i chryfderau, gan gynnwys golygfeydd awyr agored trawiadol, ansawdd bywyd a cholegau a phrifysgolion llewyrchus yr ardal.
Gallai statws Dinas-ranbarth hefyd helpu i gydbwyso'r economi unwaith eto trwy ehangu'r sector preifat, denu buddsoddiad a chulhau'r bwlch economaidd gyda gweddill y DU.
Byddai'n golygu y gallai Bae Abertawe dyfu o sefyllfa o gryfder. Mae llawer o bobl eisoes yn cymudo ar draws yr ardal am resymau gwaith ac mae'r rhanbarth yn elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth cryf.
Mae ymchwil ryngwladol yn dangos y ceir twf economaidd cynyddol mewn rhanbarthau â dinas yn ganolbwynt iddynt a bod poblogaethau o dros 500,000 yn denu swyddi â thâl gwell sy'n gofyn am fwy o sgiliau. Mae poblogaeth gyfunedig Bae Abertawe, sef 667,000, ymhell dros y trothwy hwnnw.
Meddai'r Cyng. David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dwi'n croesawu canfyddiadau'r adroddiad. Gallai hyn fod yn newyddion gwych am y byddai statws Dinas-ranbarth yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad a swyddi i ardal Bae Abertawe. Byddai hefyd yn golygu y gallem fanteisio ar ein cryfderau allweddol fel amgylchedd naturiol yr ardal a'n harbenigedd mewn technoleg ac ymchwil arloesol.
"Gallai Bae Abertawe siarad ag un llais a mynd i'r afael â heriau economaidd a rennir gyda'i gilydd os oes statws Dians-ranbarth gan yr ardal. Byddai hyn yn rhoi hwb i'r economi ar draws y rhanbarth.
"Byddai gweithio fel rhanbarth hefyd yn golygu y byddem yn fwy ac yn gryfach ar lwyfan economaidd y DU."
Meddai'r Cyng. Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Gâr, "Fel gweinyddiaeth, rydym yn ymroddedig i dwf swyddi a gallai hyn fod yn newyddion da a fydd yn cefnogi'r amcan hwnnw. Byddai statws Dinas-ranbarth yn dda i'r rhanbarth ac i fuddsoddiad yn yr ardal bartneriaeth. Byddem yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a Llywodraeth Cymru i fwyafu'r cyfle hwn er lles pawb sy'n byw ac yn gweithio yn y rhanbarth."
Meddai'r Cyng. Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Byddai statws Dinas-ranbarth yn rhoi symbyliad newydd i gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae Campws Arloesedd newydd Prifysgol Abertawe, sydd bron yn dwyn ffrwyth, yn enghraifft benigamp o brosiect a allai helpu i sbarduno'r Ddinas-ranbarth trwy greu swyddi, hyrwyddo arloesedd, denu buddsoddiad mewnol a chyflwyno adfywio ar raddfa fawr."
Gallai'r statws newydd adeiladu ar gysylltiadau presennol y rhanbarth megis agosrwydd atyniadau mawr fel Parc Cenedlaethol Sir Benfro, G?yr, Parc Gwledig Margam, Parc Gwledig Pen-bre, Parc y Scarlets, Stadiwm Liberty a Chwrs Rasio Ffos Las.
Mae gan dair prifysgol y rhanbarth hanes cryf o gydweithio trwy Bartneriaeth Arloesi'r Ddraig. Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru hefyd wrthi'n cyfuno i greu athrofa ranbarthol.
Mae cysylltiadau pellach yn cynnwys cyrff fel Fforwm Economaidd De-orllewin Cymru, y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru a Phartneriaeth Bae Abertawe sydd eisoes yn mynd i'r afael â'r problemau economaidd ac adfywio sy'n wynebu'r rhanbarth.