Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

O ymyl y Sahara i Ddyffryn Teifi

Bydd Justin Karfo o Burkina Faso yn annerch Cwrdd arbennig yn Nyffryn Teifi ar bnawn Sul 22ain o Orffennaf i hybu apêl gan Gymorth Cristnogol i wrthweithio tlodi a diffyg maeth mewn cymunedau ar ymyl anialwch y Sahara.

Cyflwynir Justin gan griw “Coda Ni” yng nghanol cwrdd Masnach Deg yng Nghapel Gwyddgrug am 2.30pm Sul 22/7. Mae “Coda Ni” yn grwp Cristnogol sydd wedi ymrwymo i godi £5000 eleni tuag at brosiect Cymorth Cristnogol i atal effaith llifogydd sydyn sy’n distrywio bywoliaeth y cymunedau bregus hyn yn Burkina Faso. Mwy o wybodaeth: stwnsh.com/burkina

Dangosir ffilm yn y Cwrdd o’r gwaith ac o ymweliad pobl leol o Ddyffryn Teifi â Burkina Faso. Gall pobl gyfrannu at y gronfa trwy gysylltu â thrysoryddion eglwysi lleol neu arlein yn www.justgiving.com/Coda-ni

Magwyd Justin ar aelwyd Gristnogol Brotestannaidd yn Burkina Faso, ac enillodd ysgoloriaeth i fynd at Goleg Unedig y Byd yn yr UDA, ac aeth ymlaen wedyn i astudio ym Mhrifysgol Princeton. Mae bellach yn byw yn Llundain, ac yn ymweld â’i famwlad yn gyson ac yn gweithio drosti yma yn Ewrop.

Am rhagor o wybodaeth: Fioled Jones, Abergwen, Pencader (01559-384617) fioled@fjones89.orangehome.co.uk

 

Rhannu |