Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Ail ddarganfod coetiroedd hynafol

Mae arolwg genedlaethol o goetiroedd hynafol Cymru wedi nodi miloedd o hectarau o’r ‘henebion byw’ oedd heb eu darganfod o’r blaen.

Lansiodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffith, Restr Coetiroedd Hynafol newydd (ddydd Iau, 12 Gorffennaf) sy’n dangos fod 95,000 hectar o goetir hynafol yng Nghymru erbyn hyn - cynnydd o fwy na 50% ers y cofnod diwethaf wyth mlynedd yn ôl.

Y rheswm dros y cynnydd enfawr yn y coetiroedd gwerthfawr a phrin ers yr amcangyfrif diwethaf yw bod mapiau digidol cywirach, a dulliau mwy cain, ar gael, sy’n gallu cofnodi ardaloedd newydd ar ben y 62,000 ha a nodwyd o’r blaen.

Lansiodd y Gweinidog y rhestr wrth ymweld ag un o’r ardaloedd newydd o goetir hynafol sydd wedi’i nodi yng Nghoetir Cwm George a Casehill, ger Dinas Powys ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Mr Griffiths fod coetiroedd hynafol yn un o asedau mwyaf gwerthfawr Cymru.
“Nid darnau mewn amgueddfa sydd angen eu cadw yw’r rhain, maen nhw’n ased gwerthfawr gyda manteision ehangach,” meddai'r Gweinidog.

“Drwy eu rheoli’n sensitif ac yn gynaliadwy, mae coetiroedd hynafol yn gallu cynhyrchu pren a swyddi a chyfrannu at economi Cymru yn ogystal â gwella bioamrywiaeth, cadw carbon a rhoi cynefinoedd amrywiol sy’n ychwanegu at ein tirluniau ysblennydd.”

Credir fod ardaloedd lle mae’r coetiroedd hynafol wedi bod o dan goed ers o leiaf 400 mlynedd ac efallai'n dyddio'n ôl hyd yn oed i 'goedwig wyllt' wreiddiol Cymru. Mae’r cynnydd yn eu harwynebedd yn golygu bod mwy na 30% o holl goetiroedd Cymru yn rhai hynafol.

Meddai Mr Griffiths, “Ond, wrth gwrs, nid wedi’u creu y mae’r coetiroedd hynafol ychwanegol. Drwy ddefnyddio dulliau newydd y sylweddolwyd eu gwerth.

“Roedd yn ddiddorol clywed fod technoleg newydd wedi chwarae rhan fawr yn yr adolygiad - felly defnyddiwyd rhywbeth newydd i ganfod rhywbeth hen.”

Comisiynwyd y rhestr newydd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwald Cymru gyda chefnogaeth Coed Cadw sy’n berchen coetir Cwm George a Casehill.

Coetiroedd hynafol yw ein safleoedd cyfoethocaf a mwyaf pwysig sy’n cynnal amrywiaeth eang iawn o bryfed, adar, anifeiliaid, blodau a choed ac sy’n gartref i fwy o rywogaethau o dan fygythiad nag unrhyw gynefin arall yn y DU.

Meddai Mr Griffiths, “Mae coetiroedd hynafol hefyd yn ein cysylltu â’n gorffennol. Maen nhw'n henebion byw sydd nid yn unig yn cynnwys coed ond hefyd eu fflora a’u ffawna sydd wedi cymryd canrifoedd i'w sefydlu.

"Efallai eu bod nhw hefyd o arwyddocâd hanesyddol ac archeolegol, maen nhw hefyd yn gallu bod yn ysbrydoliaeth i ddiwylliant a chwedlau lleol. Gallwn ddychmygu sut, dros y canrifoedd, yr oedd coetiroedd yn dylanwadu ar fywydau cenedlaethau o bobl.”

Bydd y rhestr newydd o help i gadw coetiroedd hynafol rhag eu datblygu. Mae Polisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi arweiniad i awdurdodau lleol, yn cydnabod pwysigrwydd cadw’r cynefinoedd rhag cael eu colli am byth.

 

Rhannu |