Mwy o Newyddion
‘Stiniog yn Syrffio: Blaenau ar-lein!
Bydd gwefan newydd sbon sy’n cael ei lansio ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos yma’n cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am atyniadau lleol a llety – ac yn rhoi sylw amlwg i hanes y diwylliant y dref.
Datblygwyd www.blaenauffestiniog.org fel rhan o’r cynllun i adfywio canol y dref a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd a’r gobaith yw y bydd yn rhoi hwb i fusnesau lleol.
“Mae’r wefan yn darparu toreth o wybodaeth am yr ardal, gan gynnwys clipiau fideo, galeri a blog,” meddai Andrew Roberts, cadeirydd y Siambr Fasnach yn y dref. “Bydd yn ddefnyddiol iawn i fusnesau, trigolion a thwristiaid sydd am ddysgu mwy am yr ardal, neu am weld beth sydd gan yr ardal i gynnig neu ganfod mwy am hanes y dref. “
Mae gwirfoddolwyr o fudiadau ar hyd y dref wedi bod yn gweithio i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan, y Gymdeithas Hanes yn darparu gwybodaeth am hanes yr ardal ac Antur Stiniog yn darparu gwybodaeth am weithgareddau awyr agored. “Mae hi wedi bod yn wych cael bod yn rhan o’r cynllun yma i hybu Blaenau fel cyrchfan awyr agored” meddai Adrian Bradley o Antur Stiniog.
Gall busnesau o ardal ‘Stiniog ymuno gyda’r Siambr Fasnach ar y wefan erbyn hyn hefyd gan ei gwneud yn hawdd iawn i fod yn rhan o’r mudiad. “Dwi’n gobeithio y bydd y wefan yn gyfle i’r Siambr ddenu mwy o bobl i fod yn rhan o’r grŵp ac y byddwn yn gryfach oherwydd hyn” ychwanegodd Bob Cole o Blaenau Ymlaen.
Bydd llwybrau lawr allt Antur Stiniog yn cychwyn gweithredu o’r 21ain o Orffennaf ymlaen ac mae lawnsio y wefan yn siwr o fod o gymorth i bobl ganfod llety yn yr ardal. “Mae pobl wedi bod yn gofyn am lefydd i aros yn yr arall yn barod fel canlyniad i gynllun Antur Stiniog” meddai Zoe Pritchard o Parti 4 a’r Siambr fasnach, “mae amseru’r wefan yn berffaith.”
Datblygwyd y wefan gan gwmni Delwedd o Gaernarfon mewn partneriaeth gyda Siambr Fasnach a Thwristiaid Ffestiniog, Blaenau Ymlaen , Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Wrth groesawu’r wefan newydd, dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros adfywio economaidd ar Gyngor Gwynedd:
“Mae’r wefan yma’n agoriad llygad, ac mae’n sicr o fod yn boblogaidd ymhlith unrhyw un sydd â diddordeb yn y dref, boed nhw’n bobl leol neu’n ymwelwyr.
“Mae cyfathrebu ar-lein yn arf cyfathrebu i unrhyw fusnes neu sefydliad y dyddiau yma, ac mi fydd y wefan yn hwb pellach i’n hymdrechion i adfywio’r dref.”