Mwy o Newyddion
Diogelwch ar y mynyddoedd
Gyda chynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau noddedig ac elusenol sy’n cymryd lle ym mynyddoedd Eryri, a’r penawdau diweddar am grŵpiau yn mynd i drafferthion yn y copaon, mae Partneriaeth Mynydda Diogel, sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Thîm Achub Mynydd Llanberis, yn annog trefnwyr digwyddiadau i gymryd camau ychwanegol cyn mentro allan ar y math yma o her.
Yn siarad ar ran Tîm Achub Mynydd Llanberis, sy’n gyfrifol am ateb galwadau brys ar Yr Wyddfa, dywedodd y Cadeirydd, John Grisdale: “Mae fy mhryder am y criwiau yma yn seiliedig ar eu diffyg dealltwriaeth o’r amgylchedd fynyddig. Mae’r rhan fwyaf yn cyflawni eu huchelgais gyda teimlad o foddhad. Ond mae’r potensial i ddamwain ddigwydd os yw’r amodau tywydd yn anffafriol yn cynyddu, ac mae timau achub wedi cael eu galw allan ar sawl achlysur lle mae mynyddwyr amhrofiadol wedi mynd i drafferthion.”
Gyda teithiau noddedig a digwyddiadau elusenol yn dod yn fwy poblogaidd, mae’r awdurdodau sydd â chyfrifoldeb tros gylchwylio’r mynyddoedd ac ymateb i alwadau brys yn awyddus i ledaenu’r neges diogelwch fel bod cyfranogwyr yn gallu mwynhau y profiad o gerdded mynyddoedd Eryri a chasglu arian er budd eu hoff elusen, mewn modd diogel a chyfrifol.
Fel rhan o ymgyrch ehangach Mynydda Diogel, mae Warden Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Gruff Owen wedi rhyddhau rhestr o’r cyngor pwysicaf i’r rhai sy’n bwriadu cymryd rhan mewn digwyddiadau ar y mynydd. Dyma’i gyngor ef:
1. Paratowch o flaen llaw gan sicrhau fod pawb sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o’r her y maent am gyflawni ac eu bod â’r cyfarpar cywir ar gyfer yr amgylchedd fynyddig – Mae gwefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu gwybodaeth ar deithiau cerdded a chyngor diogelwch.
2. Edrychwch ar wefan y Swyddfa Dywydd am y rhagolygon diweddaraf ar gyfer ardal Eryri a peidiwch bod ofn gohirio’ch taith os yw’r amodau’n anffafriol. Mae digon o deithiau amgen, lefel-isel ar gael yn Eryri sydd yr un mor bleserus ond heb y perygl o gyfarfod â thywydd gwael ar gopaon Eryri.
3. Cadwch â’ch gilydd – mae eich cryfder yn ddibynnol ar aelod gwanaf eich grŵp. Rhaid cysidro sefyllfa holl aelodau’r grŵp – peidiwch â gadael unrhywun ar ôl.
4. Cofiwch – Gwirfoddolwyr yw aelodau timau achub mynydd. Fel trefnydd digwyddiadau, cymrwch pob cam i osgoi digwyddiad a chofiwch gael cynllun argyfwng wrth gefn. Gwnewch eich gorau i ddelio âc achosion di-berygl bywyd eich hunain. Mae Achub Mynydd yn wasanaeth brys ar gyfer achosion argyfwng yn unig a dylid ond eu galw mewn argyfwng. Cofiwch hefyd nad oes signal ffôn symudol ym mhob rhan o’r mynydd.
5. Parchwch y mynydd, cymunedau lleol a phobl eraill. Mae’r cynydd yn y nifer o ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn Eryri yn cael effaith. Dilynwch y Côd Cefn Gwlad, ewch â sbwriel adref a byddwch yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau trwy ddarllen Côd Ymarfer y Sefydliad Codi Arian.