Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Gallai awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân fod yn sbardun economaidd i Gymru

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas y buasai creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn sbardun economaidd i Gymru. Tynnodd AC y Blaid dros Orllewin a Chanolbarth Cymru sylw at esiampl Gogledd Iwerddon lle mae’r system gyfiawnder yn cyflogi oddeutu 16,000 o bobl. Ychwanegodd y dylid ystyried y manteision o swyddi a strwythurau gyrfa newydd, ac y dylid gweld y maes cyfreithiol fel rhan o’r economi yn hytrach na dim ond mater cyfansoddiadol.

Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru: “Gallai creu awdurdodaeth gyfreithio, ar wahân fod yn sbardun economaidd i Gymru. Mae gwir fanteision i ddatblygu system gyfreithiol Gymreig ein hunain. Nid yn unig y ffaith y bydd y grym yn nes at bobl Cymru, ond fe allai cyflenwad y swyddi sy’n mynnu sgiliau ym mhroffesiwn y gyfraith hefyd gynyddu.

"Gallai creu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân fod yn sbardun economaidd i Gymru. Gallai hyn olygu mwy o gyfleoedd i gadw ein graddedigion ifanc dawnus yma yng Nghymru.

"Dros amser , fe allech weld cwmnïau cyfreithiol Cymreig yn cyflogi mwy o staff wrth i’r baich gwaith gynyddu, gan ychwanegu at eu harbenigedd, a chwmnïau newydd hefyd yn cychwyn. Os edrychwn ar Ogledd Iwerddon lle mae awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn bodoli eisoes, mae’r system cyfiawnder yn cyflogi tua 16,000 o bobl.

"Felly mae hyn yn fater o fod yn uchelgeisiol i Gymru a gweld y maes cyfreithiol fel rhan o’r economi, nid mater cyfansoddiadol yn unig.”

Yn ystod cynhadledd wythnosol Plaid Cymru i’r wasg yn y Senedd, aeth Mr Thomas yn ei flaen i ddweud ei bod yn anorfod y bydd awdurdodaeth gyfreithiol ar wahan i Gymru yn datblygu dros amser wrth i gyfreithiau newydd gael eu creu. Ei ddadl ef oedd na ddylid gadael rhywbeth mor sylfaenol bwysig i ddatblygu mewn modd ad hoc, ond y dylai gael ei gynllunio a’i lunio yn gywir:

“Wrth i gyfreithiau gwahanol gael eu creu yng Nghymru a Lloegr, mae’n anorfod y crëir awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân yn y pen draw. Y cwestiwn mae’n rhaid i ni ofyn yn awr yw a ydym eisiau wynebu’r pwnc caled a mynd ati i weithio tuag at y nod o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, ynteu a ydym eisiau gadael iddo esblygu mewn modd ad hoc a direol.

"Y perygl yw, o adael iddo esblygu, y caiff problemau eu trin yn unig unwaith iddynt godi, yn hytrach na’n bod yn eu hosgoi i gychwyn trwy flaengynllunio a dylunio cywir. Mae’r ddadl am awdurdodaeth gyfreithiol yn hanfodol i Gymru – mae’n effeithio ar ein hawliau fel dinasyddion, ac yn nodi fframwaith llunio cyfreithiau a sut y mae ein democratiaeth yn gweithio.”

Rhannu |