Mwy o Newyddion
Pileri o’r gorffennol yn dangos y ffordd ymlaen
Mae pileri llechi anferth sy’n dathlu gwreiddiau hanesyddol a diwylliannol yr ardal wrthi’n cael eu codi ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos yma fel rhan o brosiect adfywio gwerth £4.4 miliwn.
Gyda hanes ac etifeddiaeth leol yn rhan greiddiol o’r gwaith, mae’r pileri wedi cael eu hysbrydoli gan siâp cŷn holltwr llechi a arferai gael ei ddefnyddio gan genedlaethau o grefftwyr mewn chwareli lleol.
Yn 7.5 metr o uchder, mae graddfa’r pileri’n rhoi canolbwynt i ganol y dref a’u nod yw denu ymwelwyr o Reilffordd Ffestiniog i’r Stryd Fawr.
“Mi fyddan nhw’n cysylltu canol y dref â Chwarel y Foty’r tu ôl iddo,” meddai Bob Cole, cadeirydd y Grŵp Strategol Blaenau Ymlaen sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers 2008.
Mae’r pileri o lechi Ffestiniog fel tafell ddaearegol trwy’r mynyddoedd y tu ôl i’r dref. Mae barddoniaeth a thermau chwareli sy’n benodol i’r Blaenau wedi eu cerfio arnyn nhw, gan ychwanegu haen o fanylder i’r strwythurau a dathlu diwylliant cymdeithas y chwarel.
“Mae’r pileri’n adlewyrchu daeareg unigryw Blaenau gan fod y llechfaen yn eistedd ar 30 gradd – ac mae traddodiad y Caban o ddiwylliant a barddoniaeth yn cael ei ddathlu wrth ichi edrych trwy’r haenau o graig,” meddai’r cynghorydd sir lleol Paul Thomas.
Mae adfywio economaidd wedi bod yn rhan ganolog o’r cynllun, gydag archebion mawr yn mynd i chwareli lleol. Drwy ddefnyddio miloedd lawer o lechi bach o Lechi Cymreig Greaves yn Llechwedd, mae’r archeb wedi galluogi’r chwarel i gyflogi holltwr llechi ifanc o’r dref. Fe wnaeth chwarel lechi Cwt y Bugail ddarparu’r bandeau ar gyfer y testun, ac mae’r grisiau rhwng y pileri wedi dod o chwarel gwenithfaen Trefor a’u saernïo gan gwmni llechi a gwenithfaen Cerrig ym Mhwllheli.
“Bydd y pileri’n rhoi sylw amlwg i lechi fel cynnyrch ac i ni fel cwmni ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda deunyddiau a llafur lleol o’r radd flaenaf,” meddai Andrew Roberts o Lechi Cymreig Greaves.
Er mwyn cwblhau’r gwaith adeiladu mewn pryd, fe wnaeth yr artist Howard Bowcott gyflogi tri cynorthwywr lleol a phrentis i helpu adeiladu’r pileri yn ei weithdy ym Mhenrhyndeudraeth, gyda rhannau mwy’n cael eu gwneud gan grefftwyr Cerrig, a wnaeth hefyd gerfio’r testun ar y pileri.
Y bardd a’r awdur lleol Dewi Prysor oedd yn arwain y gwaith o ddatblygu cynnwys ar gyfer y pileri:
“Roedd yn bleser gwirioneddol casglu’r cannoedd o syniadau, efo rhai’n cofio Blaenau fel yr oedd ac eraill yn edrych i’r dyfodol,” meddai. “Mae’r pileri’n adlewyrchu’r graig y mae Blaenau wedi ei naddu ohoni ac mae dywediadau a thermau’r chwarel ynghyd â gwaith beirdd fel Gwyn Thomas wedi eu cynnwys arnyn nhw.”
Dywedodd John Wyn Williams, yr Aelod Cabinet dros yr Economi a Chymuned: “Mae’r prosiect yn arddangos Blaenau ar ei orau, ei hanes a’i ddiwylliant cyfoethog, mae’r pileri wedi eu hadeiladu o lechi lleol a’u hadeiladu gan grefftwaith lleol o’r radd flaenaf - maen nhw’n cysylltu â’r gorffennol ac eto’n edrych ymlaen ar yr un pryd.”
Gellir canfod mwy o wybodaeth am y cynllun drwy gysylltu â blaeneauymlaen@gwynedd.gov.uk ffonio 01766 512499, ewch ar wefan y cynllun www.gwynedd.gov.uk/blaenauymlaen neu ewch i swyddfa'r Cyngor Tref ym Mlaenau, 20 Mawrth rhwng 3pm a 6pm.
Llun: Darlun arlunydd o’r pileri llechi