Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Rhaid symleiddio cyfraith Cymru - y Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddodd Theodore Huckle CF yr wythnos yma y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyhoeddwr cyfreithiol blaenllaw i ddatblygu gwyddoniadur ar-lein o gyfraith Cymru, fel rhan o’r ymdrech i’w gwneud yn haws cael gafael ar ddeddfwriaeth.

Wrth siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod angen i gyfreithiau sydd ar waith yng Nghymru fod yn hawdd eu deall a bod ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cyhoeddodd Mr Huckle hefyd ei fod yn cydweithio gyda’r Archifau Gwladol i’w gwneud yn haws cael gafael ar gyfreithiau Cymru ar legislation.gov.uk. Mae hyn yn cynnwys dangos yn glir i ba diriogaeth y mae deddfwriaeth bresennol yn berthnasol. Dywedodd fod y farnwriaeth, ysgolheigion a phobl sy’n gweithio ym maes y gyfraith wedi mynegi pryder fod cael gafael ar ddeddfwriaeth yn gallu bod yn drafferthus.

Dywedodd Theodore Huckle CF: “Rhaid i ddeddfwriaeth fod yn effeithiol ac yn hygyrch er mwyn cynnal cyfraith a threfn. Rwy’n poeni nad yw deddfwriaeth Cymru yn ddigon clir a’i bod yn anodd cael gafael arni – nid yn unig am ei bod yn gymhleth a swmpus, ond hefyd am na chaiff ei chyhoeddi’n effeithiol.

“Clytwaith cydgysylltiedig o ddeddfwriaeth yw’r casgliad o gyfreithiau sydd gennym – ac mae peth ohono’n mynd yn ôl ddegawdau, os nad ganrifoedd. Mae datganoli wedi gwneud cyfraith statud yn fwy cymhleth fyth.

“Er mwyn datrys hyn, mae’n dda gennyf allu cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau cydweithio ag un o brif gyhoeddwyr cyfreithiol y DU, i ddatblygu naratif esboniadol ar-lein o gyfraith Cymru - neu wyddoniadur o ddeddfwriaeth Cymru, i bob pwrpas. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Archifau Gwladol i wella legislation.gov.uk o ran cyfraith Cymru. Rwy’n disgwyl y bydd llawer iawn o ddeddfwriaeth Cymru ar gael yno, wedi’u diweddaru, yn y dyfodol agos.”

Bydd y gwyddoniadur newydd ar gael yn ystod 2013, a bydd yn darparu naratif esboniadol o gyfraith Cymru i i’r rhai sy’n gweithio ym maes y gyfraith, i ysgolheigion ac eraill. Gwasanaeth ar-lein dwyieithog fydd hwn, a fydd ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd.

Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol ei fod hefyd yn ystyried pa mor ymarferol fyddai datblygu rhaglen ar wahân i symleiddio a chyfuno deddfwriaeth sydd eisoes yn gymwys i Gymru.

Ychwanegodd Mr Huckle: “Mae gan bobl Cymru hawl i allu cael gafael ar y cyfreithiau sy’n rheoli eu bywydau yn ddidrafferth, a hynny mewn ffurf hawdd ei deall. Er bod llawer o waith da wedi’i wneud yn barod, mae angen gwneud llawer mwy i hybu ac esbonio’r gyfraith, a’i gwneud yn haws ei defnyddio.

“Byddai symud yn raddol tuag at ddeddfwriaeth sy’n sefyll ar ei thraed ei hun - neu lyfr statud i Gymru – yn gwella’r sefyllfa’n sylweddol. Byddai hyn yn golygu diwygio, codio a chyfuno’r gyfraith sy’n berthnasol i Gymru yn unig. Yn wir, mae hyn yn nodweddu amryw o’r Biliau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru neu y mae wrthi’n ymgynghori yn eu cylch. Os oes modd, mae’n well gan Lywodraeth Cymru wneud darpariaeth annibynnol ar gyfer Cymru.

“Bydd cynlluniau fel hyn yn cyflymu’r broses o ddatblygu casgliad sylweddol o gyfreithiau annibynnol ar gyfer Cymru. Bydd y gwaith yma’n hanfodol hefyd wrth inni ystyried a ddylem geisio datblygu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.”

 

Rhannu |