Mwy o Newyddion
Cerddoriaeth a chelf ysblennydd yn dod â Chastell Caernarfon yn fyw i ddathlu’r Gemau Olympaidd
Mae Crochan a Ffwrnais, a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel i groesawu’r Gemau Olympaidd i Gymru’n dod i Gaernarfon. Bydd Castell Caernarfon yn dod yn fyw Ddydd Sul 1sf Gorffennaf o 2.30pm – 4.30pm wrth i bobl ifanc Caernarfon roi cychwyn ar fis o ddathliadau artistig o’r enw Cipio’r Castell, gan arddangos yr hyn mae’r gaer rymus yn ei olygu iddyn nhw.
Yn dilyn gorymdaith ysblennydd o’r Maes i’r castell, gall ymwelwyr fwynhau rapiau wedi eu comisiynu’n arbennig, cerddoriaeth gerddorfaol a chorawl, theatr fyw a mewnosodiadau celf arloesol i gyd wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant a threftadaeth y castell a’r ardal leol i gyd yn cael eu cynnal oddi fewn i waliau’r castell.
Am fis wedyn bydd ymwelwyr i’r castell yn cael eu syfrdanu gan weithiau celf unigryw wedi eu gosod o gwmpas y safle. Mae ieuenctid Caernarfon (y Cofis) wedi bod yn gweithio gydag artistiaid lleol i ddatblygu’r darnau o gelf anhygoel yma sy’ cynnwys arddangosfa flaengar arloesol o graffiti, mewnosodiadau sain, caleidoscopau, pebyll tipi, animeiddiad a ffilm.
Mae Cipio’r Castell yn un o wyth o ddigwyddiadau Crochan a Ffwrnais, fydd yn adrodd straeon hynod mewn mannau hynod yn rhai o safleoedd eiconig Cadw rhwng y 16 Mehefin â 17 Gorffennaf. Bydd miloedd o bobl ifanc yn rhannu hanes lliwgar eu cenedl o’r dechrau chwedlonol i’r cyfnod modern gydag ymwelwyr o bedwar ban byd. Ar y ffordd fe fyddan nhw’n darganfod amrywiaeth, sgiliau a thalentau’r 17,000 o bobl ifanc ac artistiaid fydd yn cymryd rhan.
Mae Crochan a Ffwrnais yn bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o Grym y Fflam, a chafodd ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU , elusen annibynnol sy’n creu gwaddol barhaus o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 trwy ariannu talentau lleol i ysbrydoli creadigrwydd ar draws y DU.
Dywedodd Clare Williams, rhaglennydd digwyddiadau creadigol Crochan a Ffwrnais : “Mae pobl ifanc yr ardal wedi creu gweithiau celf a pherfformiadau anhygoel. Rydyn ni’n rhagweld y bydd yr ymwelwyr yr un mor gynhyrfus â ni i weld penllanw’r holl waith caled yma yn y gosodiad ysblennydd yng nghastell Caernarfon ym Mis Gorffennaf.”
Dywedodd Gwawr Roberts o Gyngor Gwynedd, sy’n cyflenwi’r digwyddiad ar gyfer Crochan a Ffwrnais:
“Mae hwn yn brosiect cymunedol sy’n cynnwys pobl ifanc o Arfon a Môn mewn rhaglen liwgar o weithgareddau celf. Mae nifer o grwpiau gwahanol, yn cynnwys y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol wedi bod yn gweithio dan arweiniad artistiaid proffesiynol i gyflenwi’r dathliad cyffrous ac arloesol yma o’n treftadaeth. Rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r dathliadau gwych yma o’r Gemau Olympaidd, mae’n gyfle ffantastig i ni a’r holl bobl eraill sy’n cymryd rhan.”
Mae mynediad i’r Castell am ddim gyda band garddwrn Cipio’r Castell. Gellir cael rhain o’r 1af Mehefin o www.visitsnowdonia.info neu o Ganolfan Groeso Caernarfon – 01286 672 232.
Bydd y digwyddiadau Crochan a Ffwrnais eraill ar draws de Cymru hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brofiadau diwylliannol fydd yn helpu i ddod â hanes Cymru’n fyw.
Bydd dilynwyr celf a diwylliant yn cael eu diddanu mewn digwyddiad ysblennydd dwy noson o gerddoriaeth a dawns wrth i saith canrif o hanes Cymru ddod yn fyw yng Nghastell Harlech ac adrodd straeon, gwaith pypedau a cherfluniau o dân ddweud hanes yr Oes Efydd yng Nghastell Dinbych.
Gall y teulu cyfan ymuno â phlant y Fflint wrth iddyn nhw fynd ar daith o ddarganfod o ddechreuadau mytholegol i’r goresgyniadau Rhufeinig, Normanaidd a Saesnig. Bydd dreigiau, cewri a chymeriadau mewn masgiau yn gorymdeithio drwy’r dref i’r castell am berfformiad gala hudolus a bythgofiadwy.
Mae Cadw wedi gosod her i bobl i fynychu cynifer o ddigwyddiadau â phosibl er mwyn cael y cyfle i ennill un o bump aelodaeth blynyddol ar gyfer teulu. Am fanylion am sut i gymryd rhan mynnwch daflen Crochan a Ffwrnais mewn safle sy’n cymryd rhan neu ewch i www.cadw.wales.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am Crochan a Ffwrnais a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i www.cadw.wales.gov.uk, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch ar Twitter.
Manylion digwyddiadau Crochan a Ffwrnais - Cymru gyfan (canolbarth/gogledd Cymru*)
Dydd Sadwrn 16 Mehefin – Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf
Tai th Pererinion, Priordy Llanddewi Nant Hodni i Dŷ Ddewi
Dilynwch ôl traed pererinion, brenhinoedd, seintiau, dynion gwallgof a thlodion hynafol gyda grŵp ymroddedig o artistiaid a storïwyr ar bererindod 22 ddiwrnod ar draws De Cymru. Fe fydd yna ddigwyddiadau arbennig, perfformiadau anhygoel a gweithdai addysgol ar bwyntiau allweddol ar hyd y daith. Digwyddiad AM DDIM , Ymunwch ar www.ramblers.org.uk / www.pilgrimage2012.co.uk .
* Dydd Sadwrn 23 Mehefin, Perfformiad yn y Castell 7.30-9.00pm
Ysbryd Dreigiau, Castell y Fflint
Teithiwch drwy niwloedd amser gyda gwledd gerddorol yn gwmni i chi. Ymunwch â phlant Y Fflint wrth iddyn nhw adrodd y stori o ddechreuadau mytholegol i’r goresgyniadau Rhufeinig, Normanaidd a Saesnig gyda pherfformiadau gan ddreigiau, cewri a chymeriadau mewn masgiau. Mynediad trwy docyn AM DDIM . Archebwch ar www.clwyd-theatr-cymru.co.uk / 08453 303 565.
Dydd Gwener 29 a Dydd Sadwrn 30 Mehefin, 6.30-8.15pm
Elfennol, Gwaith Haearn Blaenafon
Dathliad amlsynhwyraidd o dirlun unigryw a’r elfennau – byddwch yn dyst i adfywiad y safle Treftadaeth y Byd anhygoel hon, a roddodd gychwyniad un tro i chwyldro diwydiannol, trwy berfformiadau creadigol a cherddorol.
Mynediad trwy docyn AM DDIM . Archebwch docynnau o www.head4arts.org.uk .
* Dydd Sul 1 Gorffennaf, 2.30-4.30pm
Cipio’r Castell, Castell Caernarfon
Gorymdaith gerddorol ysblennydd i roi cychwyn i fis o ddathliadau artistig – gall ymwelwyr fwynhau rapiau wedi eu comisiynu’n arbennig, cerddoriaeth gerddorfaol a chorawl, theatr fyw a chyfres mis o hŷd o fewnosodiadau celf arloesol oddi fewn i waliau’r castell. AM DDIM gyda band garddwrn, ar gael o Fehefin 1 o www.visitsnowdonia.info neu o Ganolfan Groeso Caernarfon neu ffoniwch 01286 672 232.
Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf, 1.30-6.00pm
Y digwyddiad yn cychwyn – Oriel y Parc 1.30pm, yr orymdaith yn gadael Oriel y Parc 2pm.
Digwyddiadau’r Finale ym Mhalas Esgob Tŷ Ddewi 3.00-4.15pm (bandiau garddwrn melyn), 4.30pm-5.45pm (bandiau garddwrn arian).
Pererinion Dewi Sant, Palas Esgob Tŷ Ddewi
Un daith fawr, un ddinas fechan - wedi teithio ledled Cymru am ddau ddiwrnod ar hugain, bydd y pererinion yn cael eu croesawu i’r ddinas i sain yr utgyrn, cerddoriaeth a gwaith celf. Gall ymwelwyr ymuno yng ngham olaf y daith drwy’r ddinas gan ddod i ben ym Mhalas yr Esgob gyda dathliad ar ffurf cerddoriaeth, bwyd a dawns. AM DDIM gyda band garddwrn ar gael o 16 Mai yn Oriel y Parc, Tŷ Ddewi, e-bost info@orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720 392.
* Dydd Sul 8 Gorffennaf, 6.30-9.30pm
Mantell, Castell Dinbych
Un fantell aur chwedlonol. Trysorfa o atgofion bendigedig. Bydd ymwelwyr yn cael eu harwain ar daith drwy’r castell lle bydd y stori’n cael ei datgelu trwy adrodd straeon, pypedwaith, animeiddio, cerddoriaeth, dawnsio a cherfluniau tân – gan ddod i ben mewn diweddglo hudolus a llachar wrth iddi nosi. Rhaid archebu tocyn Tocynnau £2, ar gael i 1 Mai o Lyfrgell Dinbych ffoniwch 01745 816 313 neu ewch i www.mantell-aur.com .
Dydd Mercher 11 Gorffennaf – Dydd Gwener 13 Gorffennaf, 6.30pm-9.00pm (10.00pm Dydd Gwener)
Awen, Castell Caerffili
Bu mytholeg a chwedlau yn llawn swyn erioed ac nid yw AWEN yn
wahanol. Bydd tridiau o ddathlu ysbrydoliaeth farddonol a hynny ar ffurf
cerflun, ffilm, dawns, cerddoriaeth a drama fydd yn
adlewyrchu bywiogrwydd a diwylliant yr ardal. Mynediad trwy docyn AM DDIM . Am docynnau ewch i www.blackwoodminersinstitute.com / www.visitcaerphilly.com neu ffoniwch 01495 227 206.
Dydd Sadwrn 16 Mehefin – Dydd Sul 15 Gorffennaf,
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf – Digwyddiad Theatr y Promenâd 2.00-4.00pm
Dydd Sul 15 Gorffennaf – Gerddi Botaneg Genedlaethol Cymru 2.00pm.
Teithiau a Chwedlau Talacharn, Castell Talacharn
Bydd y castell hudolus hwn o’r ddeuddegfed ganrif yn chwarae ei ran mewn taith antur yn llawn cliwiau a phosau. Trwy edrych drwy’r porthdy neu grwydro drwy’r gerddi, bydd ymwelwyr yn dod o hyd i atebion i ddatgloi cyfrinachau’r dref lenyddol hon. Bydd tâl mynediad arferol i’r castell a’r gerddi’n cael ei godi; ewch i www.talacharntrails.com neu www.cadw.wales.gov.uk neu ffoniwch 01437 720392 am fwy o wybodaeth.
* Dydd Llun 16 a Dydd Mawrth 17 Gorffennaf, 8.00-9.30pm
Gwŷr Harlech, Castell Harlech
Byddwch barod i rocio! Saith canrif o hanes Cymru’n dod yn fyw gyda bang greadigol. Anthem i gyffroi’r enaid a chynnig ysbrydoliaeth ar gyfer y wledd ddwy noson yma o gerddoriaeth, cân a dawns – bydd dros 250 o bobl ifanc o Wynedd yn adrodd stori saith cyfnod hanesyddol trwy lygaid yr unfed ganrif ar hugain. Tocynnau £8/£5 consesiynau / £20 teulu (2 oedolyn + 2 blentyn). Tocynnau ar gael o www.cytser.com a Chastell Harlech ar 01766 780 552.
Monday 16 & Tuesday 17 July, 8.00-9.30pm