Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Cyhoeddi enwau buddugwyr cystadleuaeth farddoniaeth siocled

Mae enillwyr cystadleuaeth farddoniaeth ar y cyd rhwng Cymorth Cristnogol a chwmni siocled Divine newydd gael eu cyhoeddi gan Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru.

Dyma'r tro cyntaf erioed  i'r gystadleuaeth gael ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, er bod cystadleuaeth drwy gyfrwng y Saesneg yn bodoli ers 10 mlynedd.

Anogwyd y plant a'r bobl ifanc i danio eu dychymyg ar y thema siocled drwy gyflwyno cerdd ar y testun "Fy Siop Siocled".

"Braint arbennig iawn i mi oedd cael beirniadu'r gystadleuaeth newydd sbon hon eleni .  Daeth dros 300 o gerddi i law", meddai Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-13 ac enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd, Dinbych yn 2006.

"Roedd y safon yn uchel, a mi wnes i fwynhau darllen pob un," ychwanegodd, "Cafwyd sawl cerdd wych, yn llawn dychymyg."

“Enillydd y Categori 7-11oed yw Alaw Edwards, Ysgol Trefriw, Llanrwst a Gwynfor Dafydd o Ysgol Llanhari, Pontyclun ydi enillydd Categori 12-16,” cyhoeddodd Eurig.

Meddai Eurig: "Gan Alaw y cafwyd dychymyg mwyaf byw y gystadleuaeth, gydag enwau dyfeisgar iawn ar siocledi newydd mewn cerdd sy’n cyfleu ei neges bositif yn gwbl ddiffwdan."

Dewis y mesurau caeth wnaeth Gwynfor Dafydd, gan ysgrifennu cywydd ac englyn. "Mae gan Gwynfor feistrolaeth wych ar y gynghanedd ac, yn bwysicach na dim, y gallu i ddefnyddio’r gynghanedd i gyfleu ystyr yn effeithiol iawn", canmolodd Eurig Salisbury.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyflwyno a thocyn lllyfr yr un, a phecyn nwyddau oddi wrth Divine a Chymorth Cristnogol mewn ymweliad arbennig a'u hysgol.

Yn ail (12-16 oed) daeth Lowri Bellis o Ysgol Gyfun Gwynllyw a ysgrifennodd "gerdd sy’n neidio o fyd breuddwydion i’r byd real, gan ddangos sut y gall y ddau fyd uno yng ngwaith Masnach Deg" yn ol y beirniad.

Rhys Tanat Morgan o Ysgol Rhydypennau, Bow Street, oedd yn ail yn y Categori 7-11 oed  gyda "cherdd hoffus iawn sy’n mynd a ni ar daith o wlad i wlad ac o flas i flas ar draws y byd", meddai Eurig.

Er mwyn gweld y cerddi buddugol cliwciwch yma:

http://www.christianaid.org.uk/cymru/news/divine-chocolate-poetry-competition.aspx?Page=2

neu

http://www.divinechocolate.com/poetry

Am y feirniadaeth fideo a chlywed Eurig Salisbury'n darllen y ddwy gerdd fuddugol cliciwch yma:

http://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=pw9-xflxar0

 

Rhannu |