Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Hwb ariannol ar gyfer canolfan logisteg

Heddiw [28.06.12], cyhoeddodd Alun Davies, y Gweinidog dros Raglenni Ewropeaidd, y bydd £7 miliwn o arian Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu canolfan logisteg yng Ngogledd-orllewin Cymru.  Bydd hyn yn cefnogi’r diwydiant cludo nwyddau sydd ar gynnydd.

Bydd Conygar Investment Company PLC yn defnyddio £2.2 miliwn i roi cam cyntaf y prosiect ar waith sef adeiladu canolfan logisteg a dosbarthu ym Mharc Cybi ger Porthladd Caergybi.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i adeiladu mannau gweithio o ansawdd uchel, gan gynnwys dwy storfa a dau adeilad fydd yn gartref i swyddfeydd.   Bydd hefyd yn helpu i ddatblygur porthladd fel prif derfynell cludo nwyddau Prydain syn gwasanaethu Dulyn ac Iwerddon.  Bydd swyddin cael eu creu ar y safle hefyd.

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:  “Mae pwysigrwydd strategol i’r safle hwn a bydd yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad a swyddi yn economi’r rhanbarth yn y dyfodol.  Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’r seilwaith cywir er mwyn annog cwmnïau i fuddsoddi a busnesau i dyfu yn yr ardal.  Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r fenter hon gydag arian Ewropeaidd; mae hwn yn hwb go iawn i’r Gogledd-orllewin.”

Mae cynlluniau i adeiladu parc lorïau gyferbyn â’r safle hwn hefyd.  Bydd hyn yn gwneud yr ardal yn fwy deniadol fyth i gwmnïau gan ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw allu cyrraedd a gwasanaethu’u marchnadoedd yn rhwydd.  Yn ogystal, mae’r planiau hyn yn cyd-fynd â’r cynlluniau i adfywio Ynys Môn ac mae Parc Cybi yn un o’r safleoedd sydd wedi cael ei glustnodi ar ei ddatblygu fel rhan o statws newydd yr Ynys fel Ardal Fenter.

Dywedodd Cyfarwyddwr Conygar, Peter Batchelor:  “Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ganolfan hon.  Mae galw mawr amdani a bydd yn gwella Porthladd Caergybi ac yn creu amrywiaeth o swyddi newydd hefyd.  Yn ogystal â’n buddsoddiad sylweddol ni, gyda’r arian hwn gan yr UE, byddwn yn gallu bwrw ‘mlaen yn hyderus er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd.”

Rhannu |