Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Plaid Cymru yn ymateb i doriadau i’r gyllideb llifogydd

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, Llyr Gruffydd, wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth Lafur i dorri’r cyllid ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd.

“Mae’r digwyddiadau erchyll diweddar yng Ngheredigion a Gwynedd yn dangos pa mor bwysig yw cael amddiffynfeydd iawn rhag llifogydd, a bod y rheiny’n cael eu cynnal yn iawn," meddai.

"Dywedodd Llywodraeth Cymru ei hun fod llifogydd amlach a mwy difrifol yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol.

"Hefyd, mae arbenigwyr wedi tanlinellu’n ddiweddar yr angen am fwy o wario i liniaru llifogydd. Mae’n anhygoel felly fod y Gweinidog wedi penderfynu torri mor llym ar y cyllid.

"Yn ychwanegol at hyn, gallai’r rhagdyb a fynegodd y Dirprwy Weinidog yn ddiweddar yn erbyn defnyddio arian yr UE i gefnogi amddiffynfeydd rhag llifogydd wneud y sefyllfa yn waeth byth.

“Mae Plaid Cymru wedi galw drachefn a thrachefn ar y llywodraeth Lafur i weithredu er mwyn dod o hyd i ffyrdd eraill i dalu am fuddsoddiadau cyfalaf, megis ein cynnig AdeiladuIGymru.

"Byddai hyn yn rhyddhau arian y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr fel amddiffynfeydd llifogydd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos eto fyth fod yn well gan y Gweinidogion Llafur eistedd yn ôl a phledio tlodi yn hytrach na chanfod atebion arloesol a radical i gael mwy o arian.

"Mae llifogydd yn cael effaith enbyd ar fywydau’r bobl sy’n dioddef o’u herwydd, ac y mae gan y Gweinidog yn awr nifer o gwestiynau i’w hateb am sut y bwriada wella amddiffynfeydd mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd, yn dilyn y toriadau hyn.”

 

Rhannu |