Mwy o Newyddion
Gofalu am gadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae bioamrywiaeth yn ffynnu gyda chymorth grŵp lleol sy’n datblygu cynefin dôl wyllt yn ardal Tyddewi.
Gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fe fu 13 aelod o grŵp Gofal yn y Gymuned lleol yn dathlu eu cyraeddiadau mewn cyflwyniad yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yr wythnos hon.
Ar gyfer Gwobr Gadwraeth John Muir, mae’r grŵp hefyd yn cael cymorth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac, yn ychwanegol at hyn, yn gweithio’n agos gyda myfyrwyr Gofal Iechyd Coleg Sir Benfro, sy’n ymuno ymhob gweithgaredd.
Meddai Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Ian Meopham: “Mae’r grŵp hwn wedi mynd o nerth i nerth gyda’r hyn y mae wedi ei gyflawni yn ei drydydd flwyddyn o weithgarwch cadwraeth. Dyma’u prosiect mwyaf hyd yn hyn ac maen nhw wedi gallu ennill y sgiliau i wneud llwybrau, grisiau a ffensys, yn ogystal â gwneud gwaith clirio i hybu cadwraeth.
“Ar gyfer eu diwrnod Rhannu, fe fu’r grŵp yn cydweithio’n agos gyda myfyrwyr Coleg Sir Benfro i drosglwyddo cyflwyniad rhagorol a oedd yn disgrifio pedwar prif her y wobr o fewn eu prosiect, sef darganfod, archwilio, gwarchod a rhannu. Fe fuon nhw’n disgrifio’u gwaith ar rostir arfordirol ac mewn coetir, a’u hymdrechion i greu dôl wyllt o ddim byd."
Mae’r grŵp wedi gweithio ar gae a oedd yn laswellt llwyr cyn hyn, gyda lefel y fioamrywiaeth yn isel, ac maen nhw wedi plannu hadau a gafwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o’i dôl ym Maidenhall ac fe fuont yn defnyddio defaid i reoli’r ardal. Ymhen blwyddyn, mae’r grŵp yn gobeithio gweld dôl sy’n ffynnu ac yn cynnal lefel o fioamrywiaeth sydd lawer yn uwch.
Mae’r grŵp hefyd wedi parhau gyda’u gwaith yng Nghoed Prendergast yn Solfach gyda staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac ar rostir arfordirol yn Abermawr ac mewn ardaloedd eraill gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ychwanegodd y Warden Gwirfoddol a chydlynydd y prosiect, Liz Taylor: “Mae cysylltiad myfyrwyr Gofal Iechyd Coleg Sir Benfro â’r grŵp Gofal yn y Gymuned wedi bod o fudd sylweddol, gyda’r myfyrwyr yn ennill sgiliau gofalu ymarferol ac yn dysgu am gadwraeth yn ardal y Parc Cenedlaethol gyda’i gilydd. Mae wedi bod mor llwyddiannus ein bod ni’n gobeithio parhau i weithio gyda myfyrwyr Coleg Sir Benfro’r flwyddyn nesaf i gyflawni’r Wobr hon.”