Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Galw ar gymunedau i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog, Teuluoedd a chyn-filwyr yng Nghymru, wedi galw ar gymunedau Cymru i gyfrannu at, a chefnogi, digwyddiadau’n arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar 30 Mehefin.

Eleni, caiff y digwyddiad cenedlaethol ei gynnal yn Plymouth ond caiff llawer iawn o ddigwyddiadau eraill eu cynnal ledled y wlad i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog. Yng Nghymru, bydd Prif Weinidog Cymru yn bresennol yn y diwrnod o ddathliadau yng Nghae Cooper’s, Caerdydd, tra bydd Carl Sargeant yn bresennol ar gyfer Gorymdaith a Dathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 7 Gorffennaf.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyfraniad y mae’r bobl hyn yn ei wneud i’n gwlad.

“Dylem fod yn ddiolchgar iawn i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr. Maen nhw’n gwneud gwaith da iawn i’n diogelu ni, ein rhyddid a’n ffordd o fyw. Mae rhyfeloedd diweddar, a’r rhai sy’n parhau hyd heddiw, yn dangos yr hyn y mae’r lluoedd arfog yn aberthu ar ein rhan.

“Dwi’n siŵr y bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni yn un arbennig a hithau’n 30 mlynedd ers diwedd Rhyfel Ynysoedd Falkland. Aberthodd 255 aelod o Luoedd Arfog Prydain eu bywydau yn y frwydr honno, yn amddiffyn eu gwlad.

“Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn rhoi cyfle arall i bobl ledled Cymru gofio’r bobl fu farw yn Rhyfel Ynysoedd Falkland ac mewn rhyfeloedd eraill. Rydw i’n awyddus i sicrhau bod gennym ni, fel gwlad, gyfle i dalu teyrnged iddyn nhw.

“Mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i roi cefnogaeth ariannol i ddigwyddiadau blaenllaw yn y Gogledd ac yn y De (hyd at £10,000 yr un), a hynny’n barhaus, i sicrhau y cynhelir dathliadau ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.”

Llun: Carl Sargeant,

Rhannu |