Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mehefin 2012

Cyrchfan Bae Abertawe yn hedfan i America

O ddinas Efrog Newydd i Los Angeles, bydd miliynau o Americanwyr sy'n hedfan yn darllen am leoliad Bae Abertawe cyn bo hir.

Roedd Michael Woody, prif olygydd cyhoeddiadau American Airlines, ymhlith sawl newyddiadurwr adnabyddus o Americana a ddaeth i ymweld ag Abertawe y mis hwn am daith dywys o amgylch yr ardal.

Bydd ei brofiadau yn Abertawe yn cael eu cynnwys mewn erthygl am Gymru fel lleoliad i ymwelwyr.

Mae gan American Airlines dri chyhoeddiad - mae un ohonynt yn gylchgrawn bob yn ail fis o'r enw 'American Way', a roddir ar gefn pob sedd ar eu hawyrennau.

Helpodd Timau'r Gwasanaethau Twristiaeth ac Amgueddfa Cyngor Abertawe i drefnu ymweliad y newyddiadurwyr. Roeddent yng Nghymru ar gyfer cynhadledd fawreddog awduron teithio 'Clasuron Teithio' gogledd America yng Nghaerdydd a gynhaliwyd gan Groeso Cymru.

Aeth rhai newyddiadurwyr i ymweld â Chanolfan Dylan Thomas Abertawe yn ystod eu hymweliad ac roedd ganddynt ddiddordeb arbennig yn rhai o'r arddangosfeydd ynghylch ymweliadau'r bardd enwog ag UDA, gan gynnwys y siwt a fenthycodd ar ei daith olaf a'r masg angau a wnaed gan David Slivka, ei ffrind. Gofynnodd y gr?p am y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau Canolfan Dylan Thomas a chynlluniau i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y bardd yn 2014.

Roedd grwp arall wedi mwynhau diwrnod ar y môr ar yr Olga, Llong Beilot 1909 wedi'i hadnewyddu gan Amgueddfa Abertawe, yn edrych ar y golygfeydd megis Ardal Forol Abertawe, Glannau SA1 a Phen y Mwmbwls.

Arhosodd yr Americanwyr yn Fairyhill yn Reynoldston a chawsant daith o amgylch de G?yr a bwyd lleol, gan gynnwys cocos, bara lawr a chawl cennin.

Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae gan Fae Abertawe eisoes enw da yn UDA oherwydd ein cysylltiadau â Dylan Thomas, ond bydd cael ein cynnwys yng nghyhoeddiadau American Airlines yn helpu i hyrwyddo ein lleoliad hyd yn oed yn fwy.

"Dengys ffigurau fod twristiaeth yn werth dros £335 miliwn y flwyddyn i'r economi leol ar adeg pan fo Bae Abertawe yn denu sylw'r byd oherwydd statws yr Uwch-gynghrair.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y sector preifat a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ardal yn elwa ar y sylw byd-eang hwn."

Mae pencadlys American Airlines yn Fort Worth, Texas, ac mae'n rheoli llynges o 600 o awyrennau ac yn hedfan i dros 170 o leoliadau yn America a 100 o leoliadau rhyngwladol.

 

Rhannu |