Mwy o Newyddion
Eisiau bod yn gyfaill â’r Ysgwrn?
Cynhelir noson i sefydlu Cyfeillion Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd ar yr 2il o Orffennaf. Bwriad y noson yw sefydlu grŵp cynorthwyol a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad y safle a’i ddehongliad. Y gobaith yw bydd y grŵp yn datblygu rhaglen o weithgareddau gan weithio ochr yn ochr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i hyrwyddo proffil Yr Ysgwrn fel cofnod o fywyd amaethyddol a diwylliant Cymreig ar droad yr 20fed ganrif, a choffáu bywyd a chyfraniad llenyddol y bardd Hedd Wyn.
Ar Fawrth 1af, cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Yr Ysgwrn, sef fferm deuluol y bardd enwog a’r milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn wedi ei diogelu ar gyfer y genedl, trwy gyfraniadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol. O ganlyniad i’r pryniant, bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gallu gwarchod, darparu mynediad a chodi ymwybyddiaeth o dreftadaeth hanesyddol, llenyddol, a lleol. Wrth gyflawni hyn, bydd yn addysgu a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd treftadaeth a rheolaeth tir.
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips, “Mae sefydlu grŵp Cyfeillion Yr Ysgwrn yn rhan annatod o ddatblygiad y safle. Wrth adeiladu ar y gwaith caled sydd wedi mynd rhagddo, mae’n bwysig ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r Ysgwrn fel safle o bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol. Rydym yn galw ar unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ddatblygiadau arfaethedig y safle i fynychu’r cyfarfod a chael y cyfle i fod yn un o sylfaenwyr Cyfeillion Yr Ysgwrn”.
Os ydych yn awyddus i ddangos eich cefnogaeth i’r datblygiadau yn Yr Ysgwrn, gweithredu gweithgareddau arbennig yn lleol a thu hwnt, neu gynnig cymorth gwirfoddol ar y safle yn ôl yr angen, yna bydd y noson yma yn rhoi cyfle i chi rannu eich syniadau gyda pobl o’r un meddylfryd.
Cynhelir y noson ar yr 2il o Orffennaf am 7.00yh yng Nghapel Bach, Trawsfynydd a darperir lluniaeth ysgafn yn dilyn y cyfarfod. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael ar y noson.
Arweinir y noson gan Gerallt Pennant.
Os ydych yn awyddus i gefnogi’r datblygiadau sydd ar y gweill yn Yr Ysgwrn a bod yn rhan o’r prosiect treftadaeth pwysig a chyffrous yma, estynir croeso cynnes i chi i’r noson.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Naomi Jones ar 01766 770 274 neu Naomi.jones@eryri-npa.gov.uk
Llun: Yr Ysgwrn